Jump to content
Y wybodaeth ddiweddaraf gan ein Prif Weithredwr ar coronafirws (COVID-19)
Newyddion

Y wybodaeth ddiweddaraf gan ein Prif Weithredwr ar coronafirws (COVID-19)

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

O ystyried y sefyllfa ddigynsail rydyn ni gyd yn profi, roeddwn am roi diweddariad ar y camau yr ydym yn eu cymryd i:

  • helpu gweithwyr rheng flaen i ganolbwyntio ar gefnogi pobl ar adeg pan mae angen help arnynt fwyaf
  • sicrhau ein bod ni’n parhau i ddarparu gwasanaeth o safon i bawb rydyn ni’n cyd- gweithio ag
  • cadw ein staff ein hunain yn ddiogel.

Mae hyn yn golygu, o heddiw ymlaen:

  • bydd ein staff i gyd yn gweithio o adref
  • ni fydd ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llanelwy ar agor i ymwelwyr nes bydd hysbysiad pellach
  • byddwn ni’n parhau i gynnig gwasanaethau cofrestru, ond efallai bydd ein hymatebion ychydig yn arafach na’r arfer. Byddwn yn parhau i dderbyn ymholiadau dros e-bost – anfonwch ymholiadau at ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru
  • ni fyddem yn tynnu unrhyw un oddi ar y Gofrestr yn ystod yr argyfwng hwn, heblaw mewn achosion lle credwn fod risg i’r cyhoedd neu os yw unigolyn yn ein gofyn i’w tynnu oddi ar y Gofrestr
  • byddwn ni’n ymestyn y cyfnod gras o chwe mis sydd gan weithwyr cymdeithasol cyn bod rhaid iddyn nhw gofrestru gyda ni i flwyddyn
  • byddwn, ble’n ddiogel, yn gohirio gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer. Fodd bynnag, byddwn ni’n parhau i symud achosion ymlaen lle y credwn fod pobl yn peri risg, ac os oes angen, yn eu hatal rhag gweithio yn y sector
  • byddwn yn gohirio unrhyw ddigwyddiadau a gynlluniwyd dros y misoedd nesaf. Byddwn yn cysylltu â chi eto pan y bwyddwn wedi cytuno ar ddyddiadau newydd I’r digwyddiadau, unwaith y bydd y sefyllfa wedi pasio neu wedi gwella’n sylweddol.

Ein nod yw darparu gwasanaeth fel yr arfer ble’n bosib, ond bydd cyflymder ein hymateb yn lleihau wrth i ni symud i’n ffordd newydd o weithio.

Byddwn ni’n adolygu a diweddaru ein gwasanaethau pan fydd cyhoeddiadau newydd gan Lywodraethau Cymru a’r DU i sicrhau ein bod ni’n ymateb yn y ffordd orau i’r sefyllfa yma sy’n newid mor gyflym.

Mwy o wybodaeth am Coronafeirws a'n gwaith: yr hyn y mae angen i chi ei wybod.

Bydd pobl yn dibynnu ar ofal, caredigrwydd a sgil y gweithlu gofal dros y cyfnod heriol sydd o’n blaenau a hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio ar, ac sy’n cefnogi’r, rheng flaen am eu proffesiynoldeb a’u hymroddiad ar yr adeg ddigynsail hon. Yng Ngofal Cymdeithasol Cymru, byddwn ni’n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r gweithlu yn ystod yr amser anodd hwn a’u helpu i ganolbwyntio ar ofalu am rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a’u cefnogi.

Yn y cyfamser, arhoswch yn ddiogel.


Sue Evans, Prif Weithredwr
Gofal Cymdeithasol Cymru