Ein trefniadau gweithio
Ydy’ch swyddfa ar agor?
Mae ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llanelwy yn parhau i fod ar gau. Ond mae ein staff yn gweithio mor normal â phosib adref. Os ydych chi’n gwybod y swyddog yr ydych am gysylltu ag ef, dylech chi gyfathrebu â nhw yn y ffordd arferol trwy e-bost neu ffôn.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, neu os nad ydych chi’n gwybod yr unigolyn y dylech chi siarad ag ef, cysylltwch â ni drwy gwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru nes bydd hysbysiad pellach.
Byddwn ni’n ceisio ymateb i chi cyn gynted â phosib. Yn gyffredinol, anfonwch unrhyw wybodaeth atom ni’n electronig.
Cyngor cyffredinol
A oes gennych chi unrhyw gyngor cyffredinol am sut dylen ni weithio ar yr adeg hon?
Y lle gorau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am coronafeirws, gan gynnwys y rhaglen frechiad, yw gwefannau Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, lle gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth fwy penodol ar gyfer rhai darparwyr gofal a chymorth.
Beth am wybodaeth mwy penodol am y frechiad ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol?
Mae adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Beth am gyngor mwy lleoledig?
I gael cyngor mwy lleoledig, dylech chi siarad â’ch rheolwr llinell neu’ch cyflogwr yn y lle cyntaf, a allai fod â chanllawiau mwy penodol ar sut y dylech chi fynd ati i weithio mewn ffordd ddiogel a phroffesiynol.
A oes unrhyw gyngor penodol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol?
I gael cyngor penodol ar weithwyr cymdeithasol, ewch i ddiweddariadau BASW coronavirus (COVID-19) (Saesneg yn unig).
Cyngor i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol
Beth am fyfyrwyr gwaith cymdeithasol sy’n ceisio cymhwyso?
Ar hyn o bryd, nid ydym yn edrych i gyflymu rhoi mywfyrwyr gwaith cymdeithasol ar waith. Rydym yn gweithio gyda phrifysgolion a phartneriaid i gynorthwyo myfyrwyr i gymhwyso er gwaethaf y tarfu sydd ar leoliadau oherwydd coronafirws.
Canllawiau i ddarparwyr gofal plant
Beth yw'r canllawiau i ddarparwyr gofal plant yn ystod yr amser hwn?
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiweddaru ei chanllawiau ar ofal plant i rieni a darparwyr gofal plant yn ystod y pandemig coronafeirws.
Mwy o wybodaeth ar coronafeirws a darpariaeth gofal plant.
Pa gymorth ariannol sydd ar gael i ddarparwyr gofal plant yn ystod y pandemig coronafirws?
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu mwy o wybodaeth i ddarparwyr gofal plant ar ba gymorth ariannol sydd ar gael.
Mwy o wybodaeth am gymorth ariannol i ddarparwyr gofal plant.
Sut y byddwn yn delio â phryderon a gwrandawiadau
Beth sy’n digwydd gyda gwrandawiadau terfynol addasrwydd i ymarfer?
Rydyn ni’n cynnal gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer dros Zoom, gan gynnwys y gwrandawiadau y cafodd eu gohirio yn 2020 yn ogystal ag achosion newydd. Rydym yn parhau i symud achosion ymlaen lle credwn fod pobl yn peri risg i unigolion sy’n defnyddio gofal a chymorth, ac os oes angen, byddwn ni’n ceisio rhwystro eu hymarfer. Gwneir hyn o bell yn hytrach nag wyneb-i-wyneb.
Beth am dynnu pobl oddi ar y Gofrestr?
Ni fyddwn yn tynnu unrhyw un oddi ar y Gofrestr yn ystod yr argyfwng presennol hwn, heblaw mewn achosion lle credwn eu bod yn peri risg i’r cyhoedd, neu os yw’r person cofrestredig yn gofyn i ni ei dynnu.
Beth am ymchwiliadau i ymarfer gweithwyr?
Byddwn ni’n parhau i gynnal ymchwiliadau y gorau y gallwn, ond byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad â chyflogwyr i reoli unrhyw risgiau mewn ffordd briodol.
A fyddwch chi’n rhoi unrhyw gonsesiynau wrth ystyried addasrwydd gweithwyr i ymarfer ar yr adeg hon?
Rydyn ni’n cydnabod bod rhaid i staff dod o hyd i’r ffyrdd gorau o ddarparu gofal a chymorth ar yr adeg ddigynsail hon sydd, efallai, ddim yn cydymffurfio â disgwyliadau arferol. Byddwn ni wastad yn cydnabod gofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a’r person, a byddwn ni’n ystyried y cyd-destun y mae ymarferwyr yn gweithio ynddo i helpu pobl i fyw’r bywydau sy’n bwysig iddyn nhw. Byddwn ni’n ystyried hyn gydag unrhyw bryderon addasrwydd i ymarfer a dderbyniwn ac yn cyfeirio at yr egwyddorion lefel-uchel a nodir yn ein Côd Ymarfer Proffesiynol.
Sut ydyn ni’n cysylltu â chi gydag unrhyw bryderon addasrwydd i ymarfer?
Y ffordd orau o wneud hyn yw anfon e-bost at aiy@gofalcymdeithasol.cymru.
Gweithrediad i gynyddu capasiti'r gweithlu
Gweithwyr cymdeithasol
Rydyn wedi sefydlu cofrestr dros dro i ddod â chyn weithwyr cymdeithasol yn ôl i ymarfer. Mae'r gofrestr hon nawr ar agor.
Rydym wedi cysylltu â bron i 1,000 o gyn-weithwyr cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda ni yn ystod y tair blynedd diwethaf, gan eu gwahodd i ailgofrestru a dychwelyd i ymarfer.
Mae'r broses o ailgofrestru yn syml ac yn gyflym. Dim ond e-bost a rhai manylion y bydd angen i'r rhai sydd am ailgofrestru eu rhannu.
Mwy o wybodaeth am gofrestriad dros dro gweithyr cymdeithasol.
Ar hyn o bryd, nid ydym yn edrych i gyflymu gweithwyr cymdeithasol myfyrwyr ar waith. Rydym yn gweithio gyda phrifysgolion a phartneriaid i gynorthwyo myfyrwyr i gymhwyso er gwaethaf tarfu ar leoliadau gwaith a achoswyd gan yr achosion o coronafeirws.
Rydym yn ymwybodol bod llawer o fyfyrwyr gwaith cymdeithasol yn cael eu dwyn i wasanaeth gan awdurdodau lleol i weithredu fel cynorthwywyr gwaith cymdeithasol neu weithwyr gofal cymdeithasol.
Rheolwyr gofal cymdeithasol
Rydym wedi gwneud newidiadau i sut i gofrestru rheolwyr, fel ei bod yn bosibl cofrestru unigolion sy'n gweithio tuag at eu cymhwyster rheoli.
Helpu i fynd i'r afael â phrinder staff - porth swyddi WeCare Wales
Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r prinder staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd ac i'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl iawn i lenwi'ch swyddi gwag, rydym wedi creu porth swyddi sy'n rhestru swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru:
Mwy o wybodaeth am borth swyddi GofalwnCymru.
Er mwyn rhannu swyddi gwag ar y wefan, mae angen i chi gyhoeddi eich swyddi gwag ar Twitter o’ch sianeli chi, gan gynnwys y manylion canlynol:
- teitl y swydd
- awdurdod lleol (os yw’r rôl yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, rhestrwch nhw)
- disgrifiad byr o’r rôl
- rhaid iddo gynnwys hashnod: #SwyddiGofalwnCymru.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.