Jump to content
Wythnos Llesiant 2025: lle i chi
Newyddion

Wythnos Llesiant 2025: lle i chi

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n cynnal wythnos o ddigwyddiadau llesiant ar-lein ym mis Ionawr i gefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

Rhwng 20 a 24 Ionawr, bydd gwesteion arbennig yn ymuno â ni i rannu gwybodaeth am y pethau y gallwch chi eu gwneud i gefnogi’ch llesiant eich hun a llesiant y bobl o'ch cwmpas.

Mae Wythnos Llesiant 2025 yn ofod cadarnhaol lle gall pobl yn y sector ddod at ei gilydd i ddysgu am lesiant a rhannu arferion gorau.

Bydd llawer o sesiynau gwahanol ar gael i bawb – o weithdai i weminarau – ar bynciau sy’n cynnwys:

  • teimlo'n ddiogel yn seicolegol yn y gwaith
  • sicrhau bod polisïau'r gweithle yn cefnogi llesiant
  • codi llais yn ddiogel.

Mae'r digwyddiadau yn agored i bawb yn y sector. Gallwch ymuno â chymaint o ddigwyddiadau ag y dymunwch. Does dim rhaid i chi gymryd rhan yn yr holl ddigwyddiadau.

Os ydych chi wedi cofrestru gyda ni, bydd cymryd rhan yn y digwyddiadau yn cyfrif tuag at eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

"Cyfle i roi amser i lesiant"

Einir Hinson, Team Manager at Conwy County Council and Social Care Wales Board Member will be opening Well-being Week.

Einir said:

Bydd Einir Hinson, Rheolwr Tîm Cyngor Sir Conwy ac Aelod Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru yn agor yr Wythnos Llesiant. Dywedodd Einir:

"Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o Wythnos Llesiant 2025.

"Bydd pob sesiwn yn gyfle gwych i bobl mewn gofal cymdeithasol neilltuo amser ar gyfer llesiant – gwneud amser i gysylltu ag eraill ac ailgysylltu â'r pethau sy'n cefnogi eu llesiant eu hunain."

"Mae canolbwyntio ar lesiant yn arwain at bethau gwych"

Dywedodd Rebecca Cicero, Rheolwr Gwella a Datblygu ar gyfer Llesiant Gofal Cymdeithasol Cymru:

Dywedodd Rebecca Cicero, Rheolwr Gwella a Datblygu ar gyfer Llesiant Gofal Cymdeithasol Cymru:

"Mae canolbwyntio ar lesiant yn arwain at bethau gwych. Rydyn ni’n gwybod bod lles da yn arwain at gyfraddau cadw staff gwell, staff hapusach a sefydliadau mwy effeithlon.

"Mae cefnogi lles yn rhan bwysig o'n strategaeth gweithlu. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant yn manteisio ar yr amser wedi’i neilltuo hwn i ddysgu mwy am gefnogi llesiant.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at wneud lle disglair i staff ac arweinwyr ar ddechrau blwyddyn newydd, felly ein bod ni’n dechrau 2025 ar y nodyn cywir."

Ymunwch â ni ar gyfer Wythnos Llesiant 2025

Cymerwch olwg ar yr arlwy ac archebwch eich lle.