Jump to content
Wythnos Gwaith Cymdeithasol
Newyddion

Wythnos Gwaith Cymdeithasol

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Amser i ddathlu ein gweithwyr cymdeithasol

Mae’n Ddiwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd ar 21 Mawrth, sy’n gyfle gwych i ddathlu’r proffesiwn gwerthfawr hwn a’r bobl arbennig sy’n gweithio ynddo.

Gan nad ydyn ni’n teimlo bod diwrnod yn ddigon i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o waith cymdeithasol, rydyn ni wedi penderfynu neilltuo’r wythnos gyfan i godi proffil y proffesiwn. Felly, wythnos yma mae’n Wythnos Gwaith Cymdeithasol.

Fideos Wythnos Gwaith Cymdeithasol

I’n helpu i ddathlu, mae gennym ni fideos gan weithwyr cymdeithasol rheng flaen, arweinwyr, pobl sy'n derbyn gofal a chymorth, myfyrwyr gwaith cymdeithasol a gwleidyddion, bob un ohonynt yn rhoi eu safbwynt am waith cymdeithasol. Bydd y rhain yn cael eu rhannu trwy gydol yr wythnos ar y cyfryngau cymdeithasol ac maen nhw ar gael ar ein gwefan.

Pwysigrwydd gweithwyr cymdeithasol

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn ôl pob tebyg wedi clywed y termau gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol, mae’n siwr y bydden nhw’n cael trafferth disgrifio beth yn union mae gweithwyr cymdeithasol yno i’w wneud.

Yn siomedig, yr unig dro rydyn ni’n tueddu i weld unrhyw beth am weithwyr cymdeithasol yn y cyfryngau cyffredinol yw mewn lleiafrif o achosion pan fydd rhywbeth wedi mynd o’i le.

Ac eto, mae gweithwyr cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu a grymuso pobl a all fod yn agored i niwed ac maen nhw’n cyfrannu’n rheolaidd at helpu i drawsnewid bywyd pobl.

Mae hynny oherwydd eu bod nhw yno i gefnogi pobl ar adegau anodd yn eu bywyd. Maen nhw’n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau bod plant ac oedolion yn cael eu cadw’n ddiogel rhag esgeulustod neu niwed.

Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n aml yn cefnogi pobl yn eu perthnasoedd â’u teulu, eu grwpiau neu eu cymuned ehangach.

Weithiau, mae’n golygu helpu pobl i adnabod eu cryfderau eu hunain a datblygu’u sgiliau fel y gallant ddelio’n well â’r problemau maen nhw’n eu hwynebu.

Hefyd, gall olygu cynnal asesiadau risg i ddeall pa ofal a chymorth posibl y mae eu hangen ar bobl i aros yn annibynnol.

Mae’r math hwn o waith yn golygu bod gweithwyr cymdeithasol yn dod i gysylltiad ag amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys plant a theuluoedd, pobl â chyflyrau iechyd meddwl neu anableddau dysgu, pobl ag anabledd corfforol, troseddwyr ifanc, a phobl a all fod â phroblemau â’u symudedd, eu golwg neu eu clyw.

Er mwyn i rywun weithio’n llwyddiannus gydag amrywiaeth mor eang o bobl gyda chymaint o wahanol ddyheadau a heriau gwahanol, mae angen cymhwyster ffurfiol arnyn nhw, ynghyd â rhai rhinweddau personol penodol.

Mae angen iddyn nhw gyfathrebu a meithrin perthnasoedd dibynadwy a pharchus yn rhagorol, gan feddwl yn greadigol a chefnogi eraill i ymdopi â sefyllfaoedd sy’n aml yn anodd.

At hynny, mae angen iddyn nhw fod yn drugarog, yn empathig, gallu dod dros anawsterau a pheidio â barnu. A hyn oll tra’n hwylio’n ddiogel drwy’r system gyfreithiol sydd wrth wraidd ymarfer gwaith cymdeithasol. Dyna pam y dywedais i fod ein gweithwyr cymdeithasol yn arbennig ar ddechrau’r erthygl hon!

Gweithwyr cymdeithasol ar ein Cofrestr

Yng Nghymru heddiw, mae gennym ni 6,565 o weithwyr cymdeithasol cymwysedig ar ein Cofrestr.

Ond mae hyn yn llai na’r nifer y mae eu hangen arnom i gyflwyno’r cyngor, y gofal a’r cymorth angenrheidiol mewn Cymru sy’n heneiddio, lle mae’r pwysau ar fywyd teuluol, eiddilwch ac iechyd gwael yn creu galwadau cynyddol ar ein gweithwyr cymdeithasol.

Dyna pam rydyn ni bob amser yn ceisio denu mwy o bobl i’r proffesiwn hwn sydd, er yn heriol weithiau, yn yrfa hynod foddhaus, gan ei bod yn gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd pobl.

I fod yn weithiwr cymdeithasol heddiw, mae angen gradd baglor neu feistr cydnabyddedig mewn gwaith cymdeithasol.

Cyllid ychwanegol i fyfyrwyr

A gwnaed y posibilrwydd o astudio i fod yn weithiwr cymdeithasol yn fwy atyniadol yn ddiweddar gan fod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo cyllid ychwanegol i fyfyrwyr trwy ein cynllun bwrsariaethau.

Mae myfyrwyr israddedig newydd a ddechreuodd eu hastudiaethau yn y flwyddyn academaidd hon yn derbyn cymorth ychwanegol o £11,250 (£3,750 y flwyddyn am dair blynedd), ac mae myfyrwyr ôl-raddedig newydd yn cael £25,430 (£12,715 am ddwy flynedd).

Felly, wythnos nesaf, ymunwch â mi i ddiolch am y gwaith gwerthfawr mae ein gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud bob dydd ym mhob cymuned yng Nghymru.

Efallai y byddwch am ymuno â nhw i wneud gwahaniaeth go iawn.

Darganfyddwch fwy am yrfa mewn gwaith cymdeithasol

Ewch i wefan Gofalwn Cymru i wybod mwy

Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2023

Gwyliwch ein fideos