Jump to content
Wyth o brosiectau a 10 o weithwyr neu dimau gofal wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau gofal nodedig
Newyddion

Wyth o brosiectau a 10 o weithwyr neu dimau gofal wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau gofal nodedig

| Social Care Wales

Mae menter gymdeithasol yng Nghaernarfon sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu, swyddog cyswllt gofal plant o Fro Morgannwg, a rhaglen therapi digidol arloesol i gefnogi pobl o Wrecsam sy’n byw gyda dementia, ymhlith y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau mawreddog.

Mae’r gwobrau – sy’n cael eu trefnu gan Ofal Cymdeithasol Cymru a’u noddi gan Hugh James, cwmni cyfreithiol sydd ymhlith y 100 uchaf yn y DU – yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu ymarfer rhagorol ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Mae’r Gwobrau yn agored i weithwyr gofal ar bob lefel, yn ogystal â thimau, prosiectau a sefydliadau o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol ac annibynnol sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.

Roedd mwy na 90 o brosiectau a gweithwyr gofal o bob cwr o Gymru wedi cymryd rhan neu wedi cael eu henwebu ar gyfer y gwobrau eleni.

Cafodd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eu dewis gan banel o feirniaid sy’n cynnwys aelodau o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru, cynrychiolwyr o sefydliadau partner, a phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn seremoni wobrwyo Gwobrau 2024 yng ngwesty Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd, ddydd Iau, 25 Ebrill 2024.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o gael grŵp mor gryf yn y rownd derfynol sy’n dangos y gwaith gofal rhagorol sy’n cael ei wneud ar hyd a lled Cymru. Unwaith eto, rydyn ni wedi cael ceisiadau o safon eithriadol o uchel ac mae’r beirniaid wedi’i chael yn anodd dethol y 18 o geisiadau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

“Nid yw’n gyfrinach bod y sectorau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yn wynebu anawsterau difrifol oherwydd cyllidebau tynnach, problemau staffio a’r argyfwng costau byw. Ond, er gwaethaf yr heriau hyn, mae ein gweithwyr gofal yn parhau i fynd yr ail filltir i ddarparu gofal a chymorth rhagorol i bobl Cymru.

“Dyma pam mae hi’n hollbwysig ein bod yn rhoi o’n hamser i ddiolch i’n gweithwyr gofal, ac i gydnabod a dathlu’r gofal a’r cymorth arbennig sy’n cael ei ddarparu bob dydd mewn cymunedau ym mhob cwr o Gymru.

“Llongyfarchiadau i’r 18 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Edrychaf ymlaen at eich croesawu chi i gyd i’r seremoni wobrwyo fis nesaf, ac at gydnabod, dathlu a rhannu eich ymdrechion a’ch llwyddiannau gwych.”