Jump to content
Rydyn yn recriwtio Cyfarwyddwr newydd!
Newyddion

Rydyn yn recriwtio Cyfarwyddwr newydd!

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni'n chwilio am Gyfarwyddwr Trawsnewid a Datblygu’r Gweithlu i ymuno â’r Tîm Gweithredol, i ddarparu arweinyddiaeth strategol i’n gweithgareddau i ddatblygu’r gweithlu, gwella gwasanaethau, ymchwil, data ac arloesi.

Gyda chyrhaeddiad Cymru gyfan, mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu arweinyddiaeth ac arbenigedd mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, gan weithio’n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i alinio â pholisïau Llywodraeth Cymru.

Mae’r rôl hon yn gyfle allweddol i wella a datblygu’r cymorth sydd ar gael i wasanaethau cymdeithasol, gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gwasanaethau gofal plant yng Nghymru, ac yn y pen draw i wella gofal a chymorth i unigolion yng Nghymru.

Diddordeb gwneud cais?

Ewch i wefan Goodson Thomas am fwy o wybodaeth