Jump to content
Rydyn ni’n ymrwymo i fod yn sero net o ran carbon erbyn 2030
Newyddion

Rydyn ni’n ymrwymo i fod yn sero net o ran carbon erbyn 2030

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru yn llawn ar gyfer sector cyhoeddus sero net o ran carbon erbyn 2030 ac yn ymrwymo i leihau ein hallyriadau carbon.

Rydyn ni’n adnabod ac yn cydnabod ein cyfrifoldeb fel sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n cefnogi’r sectorau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant i fynd i’r afael â’r heriau brys sy’n cael eu hachosi gan yr argyfwng hinsawdd.

Yn 2022, datblygom ni ein cynllun sero net, gan amlinellu’r camau rydyn ni’n bwriadu eu cymryd i’n helpu i leihau ein hôl troed carbon.

Mae’r cynllun hefyd yn amlinellu ein nod o addysgu ein staff a’r sectorau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant ehangach trwy hyrwyddo arferion datgarboneiddio da ac arloesol.

Mae hyn yn hanfodol os ydyn ni am gyflawni’r newidiadau ymddygiad sydd eu hangen fel y gall pob un ohonom ni fabwysiadu arferion mwy cynaliadwy.

Dywedodd ein Cadeirydd Mick Giannasi: “Mae’r argyfwng hinsawdd yn achosi bygythiad sylweddol i iechyd, llesiant, diogelwch a ffyniant ein cymunedau.

“Fel Bwrdd, rydyn ni’n poeni’n fawr am ei effaith drychinebus bosibl ar ddyfodol ein pobl a’n planed.

“Flwyddyn ers i ni lansio ein cynllun gweithredu, mae’r Bwrdd wedi penderfynu cyhoeddi argyfwng hinsawdd yn ffurfiol wrth i ni geisio cynyddu’r ymdeimlad o frys wrth wneud penderfyniadau a fydd yn sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy.”

Dywedodd ein Cyfarwyddwr Cyllid, Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol Andrew Lycett: “Wrth i ni symud tuag at ddatgarboneiddio ein heconomi, mae angen i ni gydweithio â phartneriaid a’r sector i leihau ein hôl troed carbon.

“Mae cyhoeddi argyfwng hinsawdd yn ffordd bwysig i ni anfon neges ein bod yn agored i arwain a chydweithio ag eraill i gyflawni hyn.”