Ydych chi’n chwilio am her newydd? Mae gennym ni gyfle cyffrous i Brif Weithredwr newydd ymuno â’n tîm medrus a chefnogol, ac rydyn ni’n chwilio am berson eithriadol i’n harwain ni drwy’r cam nesaf ar ein taith.
Meddai Mick Giannasi, ein Cadeirydd: “Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn cofleidio amgylchedd gweithio clòs y sefydliad, gan gynnal ein gwerthoedd ac arddangos arweinyddiaeth effeithiol i’n 230 o staff.
“Mae hon yn uwch swydd arwain sy’n ganolog i ofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru ac rydyn ni’n chwilio am arweinydd cydweithredol a all yrru ein cynllun pum mlynedd yn ei flaen i ategu uchelgais Llywodraeth Cymru i gyflawni canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru sydd angen gofal a chymorth i fyw’r bywyd sy’n bwysig iddyn nhw.”
Bydd ein Prif Weithredwr presennol Sue Evans yn ymddeol ym mis Gorffennaf 2024 ar ôl wyth mlynedd gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Meddai Sue: “Mae wedi bod yn brofiad buddiol iawn, yn arwain y sefydliad a gweithio gyda thimau, partneriaid a’n Bwrdd i wella gofal a chymorth i unigolion ar draws Cymru.
“Rydyn ni’n uchelgeisiol ac yn greadigol, gyda ffocws ar ein diben, ac mae hyn wedi creu diwylliant cadarnhaol a pherthnasoedd gwaith rhagorol.”
Mae’r broses recriwtio’n cael ei rheoli gan yr asiantaeth recriwtio, Goodson Thomas.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio, cysylltwch â Goodson Thomas i drefnu cael sgwrs anffurfiol am y rôl ac i gael copi o’r pecyn ymgeiswyr. Gallwch gysylltu â Goodson Thomas ar 029 2167 4422 neu trwy e-bostio info@goodsonthomas.com.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mawrth, 27 Chwefror.