Jump to content
Ein rôl arweinyddiaeth ar gyfer gofal cymdeithasol mewn partneriaeth ag Ymchwil Data Gweinyddol Cymru
Newyddion

Ein rôl arweinyddiaeth ar gyfer gofal cymdeithasol mewn partneriaeth ag Ymchwil Data Gweinyddol Cymru

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni wedi partneru gydag Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru i arwain ar y thema gofal cymdeithasol yn rhaglen waith YDG Cymru.

Mae YDG Cymru yn rhan o fuddsoddiad Administrative Data Research (ADR) UK. Mae ADR UK yn dod â data ac ymchwilwyr cymeradwy ynghyd i alluogi ymchwil gall lywio penderfyniadau polisi a gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol. Yng Nghymru, mae YDG Cymru yn cynnwys arbenigwyr gwyddor data, academyddion blaenllaw o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd a thimau arbenigol o fewn Llywodraeth Cymru. Gyda’i gilydd maen nhw’n cynhyrchu tystiolaeth sy’n cael ei gyrru gan ddata gall helpu i lywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol yng Nghymru.

Mae ‘data gweinyddol’ yn cyfeirio at wybodaeth sy’n cael ei chasglu pan fyddwn ni’n rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n gallu cael ei ddad-adnabod, sy'n golygu bod dim modd adnabod unigolion trwy ddefnyddio'r data cysylltiedig hwn. Pan fyddwn ni’n cysylltu data mae'n darparu gwybodaeth bwysig a mewnwelediadau pwerus i'n cymdeithas, gan ein helpu i weld lle mae angen newid.

Sue Evans, Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru:

“Rydyn ni’n falch iawn o weithio gydag YDG Cymru i ddatblygu potensial ymchwil data cysylltiedig ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae defnyddio data gweinyddol yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ymchwilwyr ateb cwestiynau newydd a gwahanol am yr angen a’r effaith am ofal a chymorth yng Nghymru.”

Byddwn ni’n gweithio gydag ymchwilwyr, awdurdodau lleol, sefydliadau trydydd sector, darparwyr annibynnol, grwpiau cynnwys y cyhoedd a grwpiau cymunedol i gyfathrebu a hyrwyddo manteision ymchwil data cysylltiedig.

Rydyn ni eisiau:

  • creu cymuned o randdeiliaid sydd â phrofiad o, neu sydd â diddordeb mewn, prosiectau ymchwil data cysylltiedig
  • mireinio blaenoriaethau ymchwil a chwmpasu prosiectau yn fwy manwl
  • sefydlu grŵp ymchwil data gofal cymdeithasol oedolion.

Gallwch ddarganfod mwy am YDG Cymru yma, neu gwyliwch fideo trosolwg YDG Cymru.

Angen mwy o wybodaeth?

Ewch i'n tudalen Ymchwil Data Cysylltiedig i ddysgu mwy.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwaith hwn neu os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Tara Hughes a Lynsey Cross, ein harweinwyr gwaith YDG, ar tara.hughes@GofalCymdeithasol.Cymru a lynsey.cross@GofalCymdeithasol.Cymru