Mae’r bleidlais nawr ar agor i ddewis dri o enillwyr y Gwobrau 2026.
Rydyn ni’n gwahodd aelodau’r cyhoedd i bleidleisio dros y tri person maen nhw’ meddwl dylai gael eu coroni’n enillwyr y wobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig, y wobr Dysgwr y Flwyddyn a’r wobr Gofalwn Cymru ar gyfer gweithwyr gofal rhagorol.
Mae'r Gwobrau yn wobrau blynyddol sy'n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Mae wyth gweithiwr ysbrydoledig o’r gweithlu gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar wedi’u dewis gan ein paneli o feirniaid arbenigol i gyrraedd rownd derfynol y tri chategori eleni.
Y tri sydd wedi dangos arweinyddiaeth eithriadol i gyrraedd rownd derfynol y wobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig yw:
- Jenna Bennett, Arweinydd Ymarfer yng Nghyngor Abertawe
- Gareth “Melvin” Jones, Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Rheoleiddiedig ac Unigolyn Cyfrifol yng Nghyngor Sir y Fflint
- Letitia Deeble, Arweinydd Iechyd Meddwl ym Mirus ym Mhort Talbot.
Tair dysgwr ysbrydoledig sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y wobr Dysgwr y Flwyddyn, sef:
- Catherine Hevizi, Rheolwr Byw â Chymorth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Rebecca Howell-Morgan, gweithiwr chwarae cynhwysol o Ferthyr Tudful
- Georgia Meyrick, gweithiwr chwarae o Gaerdydd.
Tra’r ddau weithiwr cymdeithasol rhagorol sydd wedi’u dewis i gyrraedd rownd derfynol y wobr Gofalwn Cymru yw:
- Gareth Lewis, gweithiwr cymdeithasol o Gynor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Maxine Carr, gweithiwr gofal a chymorth o Sir Ddinbych.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn seremoni wobrwyo'r Gwobrau 2026 yng Ngwesty Parkgate yng Nghaerdydd, 2 Gorffennaf.
Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol a diolch i bawb a enwebodd weithiwr ar gyfer gwobrau eleni.
“Derbyniom ni y nifer uchaf o enwebiadau erioed eleniac mae’r wyth gweithiwr ysbrydoledig sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn dangos ystod y gofal a chymorth rhagorol sy’n cael ei ddarparu ar draws y sector gofal ledled Cymru.
“Hoffwn i annog pawb i ddangos eich cefnogaeth ar gyfer y gwobrau a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol drwy bleidleisio dros y tri gweithwyr y credwch chi y dylid eu henwi yr enillwyr ar gyfer 2026.”