Darllenwch am y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y wobr Dysgwr y Flwyddyn a phleidleisiwch dros enillydd.
Bydd y Gwobrau yn cael ei gynnal yng Ngwesty Parkgate yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 2 Gorffennaf.
Y flwyddyn hon, bydd enillwyr o dri chategori yn cael eu dewis gan y cyhoedd:
- Arweinyddiaeth Ysbrydoledig
- Dysgwr y Flwyddyn
- Gofalwn Cymru.
Mae tri gweithiwr o ar draws y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar wedi'u dewis ar gyfer rownd terfynol y wobr Dysgwr y Flwyddyn.
Mae'r bleidlais ar agor tan 5pm, 30 Mawrth.
Catherine Hevizi, Rheolwr Byw â Chymorth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Enwebwyd Catherine gan Ceri Williams, Rheolwr Gwasanaethau Darparwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd Catherine yn credu am amser hir nad oedd dysgu ar ei chyfer hi. Roedd hi'n cael trafferth yn yr ysgol a chafodd ddiagnosis o ddyslecsia fel oedolyn. Ond ar ôl gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers 30 mlynedd, daeth cyfle, a chymerodd Catherine y cyfle hwnnw.
Dechreuodd astudio ar gyfer FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chwblhaodd ei sgiliau hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd.
Dysgodd Catherine am y ddamcaniaeth, y ddeddfwriaeth a'r egwyddorion arfer gorau sy'n creu gofal gwych sy'n canolbwyntio ar y person. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar ei thîm, yn ogystal â'r bobl y mae'n eu cefnogi.
Erbyn hyn, mae Catherine yn mentora cydweithwyr newydd, yn meithrin diwylliant myfyriol, cynhwysol ac yn rhannu gwybodaeth newydd.
Mae Catherine hefyd yn hyrwyddo arfer gorau yn y sector. Mae hi'n gweithio gyda'r tîm therapi iaith a lleferydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i hyrwyddo cyfathrebu urddasol a chynhwysol mewn amgylchedd byw â chymorth.
Dywedodd Ceri: “Yr hyn sy'n gwneud Catherine yn wahanol yw ei gwyleidd-dra a'r ffordd y mae ei dysgu wedi ennyn ffydd mewn eraill.” Mae Catherine eisiau dangos i’r bobl o’i chwmpas nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu.
Mae Catherine yn helpu'r bobl y mae'n eu cefnogi i ddysgu mynegi eu dewisiadau a'u hanghenion yn hyderus drwy ddefnyddio dulliau a thechnolegau newydd: “Mae Catherine yn defnyddio ei gwybodaeth i gydbwyso diogelwch gydag ymreolaeth, gan helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus am eu bywydau eu hunain.”
Mae rheolwr Catherine yn ei disgrifio fel “cryfder tawel y tîm”. Mae’n dysgu nid yn unig i fagu gwybodaeth ond i rymuso eraill a gwella bywydau.
Georgia Meyrick, Gweithiwr Chwarae yng Nghlwb Cymer Ofal yng Nghaerdydd
Enwebwyd Georgia gan Olivia Browning, Swyddog Hyfforddiant y Gymraeg yng Nghlybiau Plant Cymru.
Mae Georgia wedi bod yn astudio ar gyfer ei diploma Lefel 3 ym maes gwaith chwarae tra’n cydbwyso ei gwaith yng Nghlwb Cymer Ofal ac astudio’n llawn amser yn y brifysgol.
Mae Georgia’n cyfuno rhagoriaeth academaidd, sgiliau ymarferol ac angerdd go iawn. Mae hi'n cydbwyso ei hymrwymiadau heb gyfaddawdu ar ansawdd ei gwaith.
Dywedodd Olivia: “Mae Georgia yn creu mannau chwarae cynhwysol a meithringar lle mae pob plentyn yn teimlo'n werthfawr ac yn rhydd i fynegi ei hun.” Mae’r hyn y mae Georgia yn ei ddysgu yn llywio pob agwedd ar ei gwaith. Mae ei gwaith wastad yn cael ei arwain gan blant, yn ymatebol ac wedi’i adeiladu ar egwyddorion gwaith chwarae.
Dywedodd cydweithiwr arall: “Mae gan Georgia allu anhygoel i weld y byd drwy lygaid plentyn – tydi hi byth yn rhuthro, mae hi'n gwrando, ac mae hi wastad yn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.”
Mae Georgia hefyd wedi siapio’r ffordd y mae ei chydweithwyr yn gweithio. Mae'n defnyddio ymchwil o'i hastudiaethau i lywio newid ymarferol go iawn, gan gynnwys gwella mannau chwarae, dulliau rheoli ymddygiad ac arferion cynhwysol.
Dywedodd Olivia: “Mae ei gallu i drosi damcaniaeth yn weithredu ystyrlon wedi cyfoethogi profiadau'r plant y mae'n eu cefnogi ac wedi gwella amgylchedd ehangach ei lleoliad.”
Mae brwdfrydedd Georgia dros ddysgu a datblygu ei hymarfer wedi ysbrydoli ei chydweithwyr. Dywedodd aelod arall o'r tîm: “Mae Georgia y math o weithiwr chwarae y mae pob plentyn yn ei haeddu. Mae hi'n dod â gwybodaeth, caredigrwydd ac angerdd ynghyd ym mhopeth mae hi'n ei wneud."
I Olivia, “nid yw Georgia yn cwblhau ei hastudiaethau’n unig; mae hi'n byw ac yn anadlu'r hyn y mae'n ei ddysgu, gan drawsnewid damcaniaeth yn weithredu tosturiol ac effeithiol.
Rebecca Howell-Morgan, Gweithiwr Chwarae Cynhwysol yn Bridging the Gap Youth, Merthyr Tudful
Cafodd Rebecca ei henwebu gan Bethan Jones, Swyddog Hyfforddiant Clybiau Plant Cymru.
Mae Rebecca yn astudio tuag at ei diploma Lefel 3 mewn gwaith chwarae tra’n gweithio yn Bridging the Gap Youth, sefydliad sy'n cynnig clwb ar ôl ysgol, clwb gwyliau a chlwb dros 19 oed wedi'i deilwra ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Fel tiwtor Rebecca, dywedodd Bethan: “Mae ei ffordd dawel, garedig a phroffesiynol yn meithrin amgylchedd lle mae plant yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu hannog i fynegi eu hunain.
Wastad yn fyfyriol ac yn chwilio am ffyrdd o ddefnyddio’r hyn y mae wedi'i ddysgu, mae pwyslais Rebecca ar wella canlyniadau ar gyfer y plant y mae hi'n gweithio gyda nhw.
Mae Rebecca yn addasu chwarae i ddiwallu anghenion pob plentyn, yn eirioli dros glywed eu lleisiau ac yn modelu arfer gorau.
Dywedodd Bethan: “Yr hyn sy'n sefyll allan am Rebecca yw ei gallu i gyfuno tosturi â dysgu parhaus.”
Mae Rebecca yn dod o hyd i ffyrdd newydd drwy’r amser o gefnogi datblygiad plant. Wedi'i hysbrydoli gan ddysgu am gynhwysiant a chyfranogiad, canolbwyntiodd Rebecca yn ddiweddar ar gysylltu’r plant â’u cymuned ehangach.
Trefnodd i waith celf y plant gael ei arddangos yn y llyfrgell leol, gan ddangos gwerth eu gwaith iddyn nhw.
I gefnogi ei dysgu, mae Rebecca wedi cwblhau hyfforddiant ychwanegol. Mae hi wedi cwblhau rhan 1 o’r Cwrs Camau Cymraeg Lefel Mynediad, yn ogystal â mynychu nifer o sesiynau Clwb Hwb ar bynciau, fel chwarae cynhwysol.
Mae Rebecca yn cefnogi ei chydweithwyr yn frwd i wella eu harferion, yn ogystal â’i harferion ei hun. Mae hi'n rhannu gwybodaeth, yn mentora cydweithwyr newydd ac wedi cyflwyno strategaethau newydd i helpu i wneud gwelliannau yn y gwaith.