Darllenwch am y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y wobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig a phleidleisiwch dros enillydd.
Bydd y Gwobrau yn cael ei gynnal yng Ngwesty Parkgate yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 2 Gorffennaf.
Y flwyddyn hon, bydd enillwyr o dri chategori yn cael eu dewis gan y cyhoedd:
- Arweinyddiaeth Ysbrydoledig
- Dysgwr y Flwyddyn
- Gofalwn Cymru.
Mae tri gweithiwr o ar draws y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar wedi'u dewis ar gyfer rownd terfynol y wobr Arweinyddiaeth Effeithiol.
Mae'r bleidlais ar agor tan 5pm, 30 Mawrth.
Gareth ‘Melvin’ Jones, Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Rheoleiddiedig i Blant ac Unigolyn Cyfrifol yng Nghyngor Sir y Fflint
Cafodd Gareth, neu Mel, fel mae’n cael ei adnabod, ei enwebu gan Abigail Pattullo, Rheolwr Cartref Preswyl Plant Cofrestredig yng Nghyngor Sir y Fflint.
Mae Mel wedi trawsnewid dull Cyngor Sir y Fflint tuag at gartrefi preswyl i blant drwy ddatblygu darpariaeth breswyl fewnol ar gyfer y plant sydd fwyaf agored i niwed yn y gymuned.
Mae hyn yn golygu bod dim angen i blant sy'n derbyn gofal symud i ffwrdd ac y gallan nhw aros yn eu cymuned.
Mae gweledigaeth strategol Mel wedi'i wreiddio mewn arweinyddiaeth ymarferol a thosturiol. Wrth adeiladu amgylchedd cefnogol i blant a phobl ifanc, dechreuodd Mel gyda’i dîm.
Mae Abigail yn disgrifio Mel fel “arweinydd sy’n gwrando, yn cynnwys pobl ac yn grymuso – rhywun sydd wastad yn dod â'r gorau allan mewn pobl.”
Dywedodd aelod arall o staff: “Mae gan Melvin allu eithriadol i weld y potensial mewn pobl cyn iddyn nhw ei weld yn eu hunain.”
Mae'r plant a phobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn profi'r un dull sy'n canolbwyntio ar y person: “Mae Mel yn gadarn. Mae ganddo bersonoliaeth garedig; mae wedi gwneud amser i fi, gan fynd â fi allan i'r siop ac i fynd am gacen ac mae'n wrandäwr da iawn."
O dan arweiniad Mel, mae holl gartrefi plant Cyngor Sir y Fflint wedi cyflawni sgoriau gwych gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Bellach, mae Mel a'i dîm yn rhannu arferion da a'u ffyrdd newydd o weithio gydag awdurdodau lleol eraill.
Yn ôl ei gydweithwyr, “Mae Mel yn ymgorffori’r gorau o arweinyddiaeth gofal cymdeithasol: yn meddwl ymlaen llaw, yn canolbwyntio ar bobl ac yn ymrwymedig i wneud yr hyn sy’n iawn i blant a theuluoedd.”
Mae Mel eisioes wedi dechrau rôl newydd fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau i Wasanaethau Plant yn Action for Children.
Jenna Bennett, Arweinydd Ymarfer yng Nghyngor Abertawe
Cafodd Jenna ei henwebu gan Michaela Reynolds, Swyddog Cymorth i Blant a Theuluoedd yng Nghyngor Abertawe.
Fel Arweinydd Ymarfer ar gyfer ei thîm o weithwyr cymdeithasol, mae Jenna yn cymryd bob cyfle i greu diwylliant grymusol a chefnogol i’w chydweithwyr.
Yn ôl Michaela, “Nid arwain yn unig y mae Jenna; mae hi'n dyrchafu pobl eraill, gan greu tonnau o effaith sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'w rôl uniongyrchol.”
Pan fydd problemau’n codi, Jenna yw’r cyntaf bob tro i gynnig help. Ond mae hi hefyd yn sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed a'i werthfawrogi wrth ddod o hyd i atebion.
Mae hi'n arwain drwy rymuso ei chydweithwyr, gan feithrin “ymddiriedaeth, cydweithio a thwf parhaus”. I Jenna, mae arweinyddiaeth yn golygu manteisio ar bob cyfle i dyfu ei thîm, meithrin eu sgiliau ac arwain drwy esiampl.
Dywedodd Michaela: “Mae gan Jenna dalent unigryw i adnabod cryfderau pobl eraill a'u meithrin, gan helpu aelodau'r tîm i dyfu mewn hyder a gallu.”
Mae’n rhoi adborth meddylgar ac adeiladol, a chreu cyfleoedd bob amser i fyfyrio a dysgu. Mae aelod arall o'r tîm yn disgrifio Jenna fel “wastad yn ddigynnwrf, wastad yn deg, byth yn feirniadol... wastad gyda gofal a phwrpas”.
Mae annog a datblygu ei thîm wrth wraidd gwaith Jenna: “Mae’n fy herio, yn fy annog i feddwl yn wahanol, ac wastad yn fy ngwthio i fod y gorau y gallaf fod.”
Mae Jenna hefyd yn gwybod pwysigrwydd dathlu pob llwyddiant, dim ots pa mor fach. Mae hi'n gweithio i greu amgylchedd positif sy'n ysgogi'r tîm i wneud eu gorau.
“Mae angerdd Jenna dros wella bywydau yn heintus” dywedodd Michaela, “mae hi’n ein hatgoffa ni bob dydd pam mae ein gwaith yn bwysig.”
Letitia Deeble, Arweinydd Iechyd Meddwl yn Mirus, Port Talbot
Cafodd Letitia ei henwebu gan Melissa Murray, Arweinydd Tîm Iechyd Meddwl a Sara Davies, Cyfarwyddwr Cymorth yn Mirus.
Mae ffordd Letitia o arwain wedi'i seilio ar greu canlyniadau gwych i'r bobl mae ei thîm yn eu cefnogi. Mae hi wedi creu diwylliant sy'n canolbwyntio ar empathi, cydweithio a dysgu parhaus.
Mae Letitia yn cael ei disgrifio fel “rhywun sy'n dod â'r gorau allan mewn eraill – rhywun sy'n gweld potensial lle gallai eraill weld cyfyngiadau.”
Mae hi'n gweld pob her fel cyfle i ddysgu. Drwy annog atebolrwydd mewn ffordd empathig, mae Letitia yn helpu ei thîm i ddysgu ac i dyfu. Fel y dywedodd un cydweithiwr, “Rydw i wedi dysgu mwy o dan arweinyddiaeth Letitia nag yr oeddwn i erioed wedi'i ddisgwyl. Mae hi'n credu ynddoch chi, hyd yn oed pan nad ydych chi'n credu ynddoch chi'ch hun.”
Dywedodd cydweithiwr arall: “Mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u cymell, ac mae hynny'n amlwg yn y ffordd rydyn ni'n gofalu am eraill.”
Mae Letitia yn blaenoriaethu gwrando ar y bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth, yn ogystal â staff. Mae hi'n frwd o blaid cyd-gynhyrchu. Mae hyn yn golygu gwrando ar beth mae'r person sy'n defnyddio cymorth yn ei ddweud sydd ei angen arnyn nhw a rhoi rôl iddyn nhw wrth siapio eu cynllun gofal a chymorth.
Dywedodd un person sy'n derbyn cymorth: “Mae Letitia wastad yn gwrando. Mae hi'n sicrhau fy mod i'n rhan o bob penderfyniad ynglŷn â fy ngofal. Mae'n teimlo fel fy mod i mewn rheolaeth o fy mywyd unwaith eto.”
Mae Letitia hefyd yn gweithio gyda sefydliadau partner, rhanddeiliaid ac aelodau’r gymuned leol, gan sicrhau bod lleisiau pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth yn cael eu clywed mewn trafodaethau ac wrth wneud penderfyniadau ehangach.
Dywedodd Melissa: “Mae ei harweinyddiaeth dosturiol, sy'n canolbwyntio ar y person, wedi trawsnewid nid yn unig y ffordd rydyn ni’n gweithio, ond y ffordd y mae pobl yn profi gofal.”