Darllenwch am y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y wobr Gofalwn Cymru a phleidleisiwch dros enillydd.
Bydd y Gwobrau yn cael ei gynnal yng Ngwesty Parkgate yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 2 Gorffennaf.
Y flwyddyn hon, bydd enillwyr o dri chategori yn cael eu dewis gan y cyhoedd:
- Arweinyddiaeth Ysbrydoledig
- Dysgwr y Flwyddyn
- Gofalwn Cymru.
Mae dau gweithiwr o ar draws y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar wedi'u dewis ar gyfer rownd terfynol y wobr Gofalwn Cymru.
Mae'r bleidlais ar agor tan 5pm, 30 Mawrth.
Gareth Lewis, Gweithiwr Cymdeithasol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Enwebwyd Gareth gan Helen Bowles, Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Ym mis Ionawr 2024, dechreuodd Gareth swydd dros-dro fel gweithiwr cymdeithasol yn y Tîm Allgymorth Tai ar gyfer digartrefedd yn Rhondda Cynon Taf. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi cefnogi 141 o bobl sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref.
O ganlyniad i waith Gareth yn tynnu sylw at yr angen am gymorth yn yr ardal, mae’r cyngor wedi creu tair swydd barhaol i weithwyr cymdeithasol yn y tîm.
Yn ôl Helen, mae Gareth wedi “trawsnewid bywydau llwyth o bobl” gyda’i ffordd anfeirniadol, tosturiol sy’n seiliedig ar gryfderau.
Mae Gareth wastad yn gweithredu'n gyflym mewn argyfwng ac yn bwyllog i gael cymorth lle bo angen.
Dywedodd rhiant i berson sy'n derbyn cymorth: “mae Gareth yn hynod ddibynadwy ac yn gefnogol iawn. Er fy mod yn gwybod ei fod yn brysur iawn, mae wedi bod o fudd mawr wrth helpu fy mab.”
Dywedodd un cydweithiwr: “Mae rôl Gareth wedi profi i fod yn drawsnewidiol, nid yn unig i unigolion sy'n wynebu digartrefedd ond hefyd i'r gweithwyr proffesiynol sy'n ymdrechu i'w cefnogi bob dydd.”
Mae Gareth yn gwerthfawrogi barn yr arbenigwyr o’i gwmpas. Mae’n “gydweithredwr go iawn”, gan wella gwasanaethau ar draws yr awdurdod lleol drwy gryfhau gwaith amlasiantaeth.
Drwy wella cyfathrebu rhwng gwasanaethau a helpu pobl i gael mynediad at gymorth yn gynnar, mae Gareth wedi lleihau'r pwysau ar y system. Nawr, mae angen llai o leoliadau brys ac ymyriadau argyfwng yn y gymuned.
Dywedodd Helen: “Mae’n llawer mwy na gweithiwr cymdeithasol, mae’n sbardun ar gyfer newid positif, yn bresenoldeb cysurlon yn ystod argyfyngau, ac yn eiriolwr cadarn dros urddas a pharch.”
Maxine Carr, Gweithiwr Gofal a Chymorth, Cyngor Sir Ddinbych
Enwebwyd Maxine gan Rob Gilmour, Dirprwy Reolwr Tîm yng Nghyngor Sir Ddinbych.
Mae Maxine wedi gweithio gyda Chynllun Gofal Ychwanegol Nant y Môr ers 12 mlynedd, gan ddarparu gofal a chymorth i'r bobl hŷn sy'n byw yno.
Er mwyn helpu preswylwyr y lleoliad a'u teuluoedd i ddod i adnabod ei gilydd, mae Maxine yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd ar eu cyfer.
Mae digwyddiadau yn amrywio o foreau coffi Macmillan a nosweithiau tecawê thematig i bartïon Calan Gaeaf a siwmperi Nadolig.
Mae Maxine yn casglu rhoddion gan y gymuned leol ac yn cydweithio â busnesau lleol i drefnu arlwyo.
Dywedodd Rob: “Mae'r digwyddiadau hyn wedi dod yn uchafbwynt yn y calendr, gan greu ymdeimlad o gyffro ac ysbryd cymunedol sy'n wirioneddol anhygoel.”
Heb ddigwyddiadau Maxine, prin fyddai cyfleoedd nifer fawr o'r preswylwyr i ryngweithio’n gymdeithasol.
Dywedodd un preswylydd: “Mae'r digwyddiadau wedi fy nhynnu allan o fy nghragen ac wedi rhoi mwy o hyder i fi wrth gymdeithasu gydag eraill.”
Ac nid y trigolion yn unig sy'n teimlo effaith gwaith Maxine. Mae Maxine wedi creu ymdeimlad o lesiant a chysylltiad ar draws y gymuned gyfan, gyda theulu, ffrindiau, cymdogion a staff i gyd yn edrych ymlaen at ddigwyddiadau Maxine.
Cafodd y digwyddiadau eu crybwyll mewn arolygiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru, a sgoriodd y lleoliad fel un ardderchog: “Dywedodd pobl wrthyn eu bod nhw wrth eu bodd gyda’r noson bwyd Tsieineaidd diweddar ac yn edrych ymlaen at yr un nesaf.”
Mae Maxine hefyd yn manteisio ar bob cyfle i ddatblygu’n broffesiynol. Yn ddiweddar, mynychodd hyfforddiant ‘Gwneud synnwyr: gofal a chreadigrwydd’ ac mae wedi bod yn gweithio mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth i ddysgu mwy am gefnogi preswylwyr gyda dementia.
Dywedodd Rob: “Nid trefnu digwyddiadau yn unig y mae Maxine, mae’n adeiladu pontydd, yn meithrin perthnasoedd, ac yn gwella bywydau.”