Jump to content
Penodi Lisa Trigg yn Gyfarwyddwr Trawsnewid a Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru
Newyddion

Penodi Lisa Trigg yn Gyfarwyddwr Trawsnewid a Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Lisa Trigg wedi’i phenodi’n llwyddiannus i rôl Cyfarwyddwr Trawsnewid a Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru.

Ar hyn o bryd mae Lisa yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Data ac Arloesi gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, rôl y mae hi wedi’i chyflawni ers 2018.

Ers ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, mae Lisa wedi gweithio ledled Cymru i sefydlu gwasanaethau ymchwil, arloesi a data ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.

Arweiniodd Lisa ddatblygiad cymorth a gwasanaethau y Grŵp Gwybodaeth, gan ymateb i’r hyn a ddywedodd cyflogwyr ac ymarferwyr wrthym ni fod eu hangen arnyn nhw i wella gofal a chymorth yng Nghymru.

Bu Lisa hefyd yn cyd-arwain datblygiad ‘Ymlaen’, y strategaeth Cymru gyfan sy’n rhoi gweledigaeth hirdymor i, ac yn canolbwyntio ar, ddefnyddio tystiolaeth, gwelliant ac arloesi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth yng Nghymru.

Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, treuliodd Lisa saith mlynedd yn Ysgol Economeg Llundain yn cynnal ymchwil ar systemau gofal cymdeithasol rhyngwladol a dulliau'r llywodraeth o wella ansawdd gofal i bobl hŷn.

Mae ganddi hefyd brofiad helaeth o gefnogi gwelliannau sylweddol i wasanaethau mewn ystod o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat yn y DU ac Awstralia.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Cynhaliodd yr asiantaeth recriwtio Goodson Thomas chwiliad trylwyr a helaeth ar ein rhan am ein Cyfarwyddwr Trawsnewid a Datblygu’r Gweithlu nesaf.

“Yn dilyn y broses hon, rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod wedi penodi Dr Lisa Trigg fel ein cyfarwyddwr newydd.

“Gwnaeth Lisa argraff ar y panel cyfweld gyda’i gwybodaeth helaeth o’r sector, ei gallu strategol i gyd-arwain datblygiad ‘Ymlaen’ a’i gallu i ddatblygu gwasanaethau i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.”

Bydd Lisa yn ymgymryd â’r rôl ym mis Medi, gan gymryd drosto gan Sarah McCarty sy’n camu i rôl y Prif Weithredwr ym mis Gorffennaf.

Dywedodd Sarah: “Llongyfarchiadau i Lisa ar ei phenodiad. Mae Lisa wedi dangos ei hangerdd a'i hymrwymiad i'r sector. Mae ganddi hefyd allu cryf i ffurfio partneriaethau cadarn, sy’n hanfodol i sicrhau ein bod yn cefnogi ac yn ychwanegu gwerth at y sectorau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar.”

Meddai Lisa: “Rwy’n teimlo’n freintiedig o gael y cyfle hwn i gamu i esgidiau Sarah a pharhau i adeiladu ar y gwaith gwella a datblygu’r gweithlu gwych y mae hi wedi’i wneud dros yr wyth mlynedd diwethaf.

“Rwy wedi mwynhau arwain ein gwaith ymchwil, data ac arloesi yn fawr fel rhan o gyfarwyddiaeth Sarah ac yn awr yn edrych ymlaen at weithio'n agos hefyd â'n timoedd datblygu’r gweithlu a gwella dawnus.

“Rwy wedi cael profiad uniongyrchol o’r gwaith gofal cymdeithasol gwych sy’n digwydd yng Nghymru wrth gefnogi fy mam dros nifer o flynyddoedd ac mae’n anrhydedd cael cymryd rôl lle galla i gefnogi’r gweithlu hanfodol hwn.”

Lisa Trigg, ein Cyfarwyddwr Trawsnewid a Datblygu’r Gweithlu newydd.