Jump to content
Partneriaeth Cymunedau Dyfeisgar yn ceisio enwebiadau ar gyfer cadeirydd ac is-gadeirydd
Newyddion

Partneriaeth Cymunedau Dyfeisgar yn ceisio enwebiadau ar gyfer cadeirydd ac is-gadeirydd

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae partneriaeth cenedlaethol newydd i wella llesiant mewn cymunedau ledled Cymru yn chwilio am enwebiadau am gadeirydd ac is-gadeirydd i lunio ei waith.

Bydd y ddwy swydd yn cynrychioli’r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar yn ei gwaith gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau’r sector cyhoeddus a thrydydd sector.

Sefydlwyd y Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar y llynedd, gyda’n cefnogaeth, i ddatblygu a hyrwyddo gweithgareddau lleol a fydd yn gwella llesiant mewn cymunedau ledled Cymru.

Daw ei haelodau o’r sectorau gwirfoddol, statudol ac academaidd ac, erbyn hyn, mae’r grŵp sy’n tyfu am ethol ei gadeirydd ac is-gadeirydd.

Mae’r grŵp yn chwilio am bobl o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector i weithredu fel cadeirydd ac is-gadeirydd am gyfnod o ddwy flynedd, gyda rôl y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn newid rhwng y sectorau bob dwy flynedd.

Mae’r grŵp yn awyddus bod y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn dod â phersbectif cytbwys i’r grŵp. Ceisia wneud hyn trwy wneud yn siwr y daw’r cadeirydd a’r is-gadeirydd o gefndiroedd gwahanol – un o’r sector cyhoeddus a’r llall o’r trydydd sector.

Mae’r grŵp yn gofyn i bobl a sefydliadau enwebu unrhyw un y credant y byddent yn addas, sy’n gweithio yn y naill sector – ni all y sawl a enwebant weithio yn yr un sefydliad â nhw.

Bydd yr enwebiadau’n mynd i bleidlais wedyn gydag un bleidlais fesul sefydliad. Caiff yr enwebai â nifer fwyaf y pleidleisiau eu penodi’n gadeirydd. Caiff y sawl â nifer fwyaf y pleidleisiau o gefndir gwahanol eu penodi’n is-gadeirydd.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ddyfeisgarwch cymunedol yma a gallwch weld rôl ddisgrifiadau ar gyfer y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn y broses enwebu islaw.

E-bostiwch eich enwebiad wedi’i gwblhau at Hugh Irwin yn hugh@hughirwinassociates.co.uk erbyn dydd Gwener, 17 Rhagfyr.

Lawrlwythwch y ffurflen enwebu

Disgrifiad o'r rôl – Cadeirydd

Diben

Bydd y Cadeirydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynrychioli'r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar a bydd disgwyl iddo/iddi gynrychioli'r bartneriaeth â Llywodraeth Cymru a chyda sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Bydd y Cadeirydd yn goruchwylio'r gwaith o lunio a gweithredu diben ac amcanion y bartneriaeth, fel y nodir yn ei Gylch Gorchwyl.

Bydd y Cadeirydd yn sicrhau:

  • cyfraniad llawn mewn cyfarfodydd
  • bod yr holl faterion perthnasol yn cael eu trafod
  • bod penderfyniadau effeithiol yn cael eu gwneud a'u gweithredu.

Priodoleddau a phrofiad hanfodol

  • Hanes o sgiliau arwain
  • Sgiliau strategol a hwyluso da, a'r gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau a’u meithrin
  • Y gallu i weithredu'n ddiduedd a heb ragfarn
  • Doethineb a diplomyddiaeth
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol
  • Ymwybyddiaeth wleidyddol
  • Yr amser i feithrin perthynas gref rhwng rhanddeiliaid
  • Profiad o lywodraethu a phrofiad ar lefel bwrdd yn y gwasanaethau cyhoeddus neu'r trydydd sector
  • Profiad o gadeirio cyfarfodydd aml-randdeiliad yn llwyddiannus
  • Cefndir yn y gwasanaethau cyhoeddus neu'r trydydd sector yng Nghymru

Priodoleddau dymunol

  • Siaradwr Cymraeg

Gwybodaeth hanfodol

  • Themâu polisi trawsbynciol sy'n ymwneud â gweithgarwch y bartneriaeth, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Tymor y Cadeirydd

Dwy flynedd – bydd y rôl yn mynd bob yn ail, bob dwy flynedd, i unigolyn â chefndir yn y sector cyhoeddus ac i unigolyn sydd â chefndir yn y trydydd sector.

Disgrifiad o'r rôl – Is-Gadeirydd

Diben

Bydd yr Is-Gadeirydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynrychioli'r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar a bydd disgwyl iddo/iddi gynrychioli'r bartneriaeth â Llywodraeth Cymru a chyda sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Bydd yr Is-Gadeirydd yn cefnogi’r Cadeirydd i oruchwylio'r gwaith o lunio a gweithredu diben ac amcanion y bartneriaeth, fel y nodir yn ei Gylch Gorchwyl.

Hefyd, bydd yr Is-gadeirydd yn cyflawni rôl a dyletswyddau'r Cadeirydd yn absenoldeb y Cadeirydd ac yn helpu'r Cadeirydd i sicrhau:

  • cyfraniad llawn mewn cyfarfodydd
  • bod yr holl faterion perthnasol yn cael eu trafod
  • bod penderfyniadau effeithiol yn cael eu gwneud a'u gweithredu.

Priodoleddau a phrofiad hanfodol

  • Hanes o sgiliau arwain
  • Sgiliau strategol a hwyluso da, a'r gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau a’u meithrin
  • Y gallu i weithredu'n ddiduedd a heb ragfarn
  • Doethineb a diplomyddiaeth
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol
  • Ymwybyddiaeth wleidyddol
  • Yr amser i feithrin perthynas gref rhwng rhanddeiliaid
  • Profiad o lywodraethu a phrofiad ar lefel bwrdd yn y gwasanaethau cyhoeddus neu'r trydydd sector
  • Profiad o gadeirio cyfarfodydd aml-randdeiliad yn llwyddiannus
  • Cefndir yn y gwasanaethau cyhoeddus neu'r trydydd sector yng Nghymru

Priodoleddau dymunol

  • Siaradwr Cymraeg

Gwybodaeth hanfodol

  • Themâu polisi trawsbynciol sy'n ymwneud â gweithgarwch y bartneriaeth, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Tymor yr Is-Gadeirydd

Dwy flynedd – bydd y rôl yn mynd bob yn ail, bob dwy flynedd, i unigolyn â chefndir yn y sector cyhoeddus ac i unigolyn sydd â chefndir yn y trydydd sector.

Y broses enwebu: amodau a thelerau

  • Ni all y sefydliad neu'r sawl sy'n enwebu weithio i'r un sefydliad â'r unigolyn sy'n cael ei enwebu (yr enwebai)
  • Rhaid i'r enwebai wybod am yr enwebiad a chytuno iddo
  • Rhaid i'r person neu'r sefydliad sy'n enwebu fod yn hyderus bod yr enwebai yn bodloni'r proffil rôl
  • Bydd enwebiadau'n cael eu rhoi i bleidlais, gydag un bleidlais i bob sefydliad
  • Yr enwebai sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau fydd yn cael ei benodi'n gadeirydd
  • Bydd y sawl sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau o gefndir proffesiynol gwahanol (hynny yw, o'r sector cyhoeddus neu'r trydydd sector) yn cael ei benodi'n is-gadeirydd i'r cadeirydd
  • Bydd cefndiroedd y cadeirydd a'r is-gadeirydd yn cylchdroi rhwng y sector cyhoeddus a'r trydydd sector bob dwy flynedd.