Jump to content
Parhau i fuddsoddi yn hyfforddiant parhaus ein gweithwyr gofal yn hanfodol
Newyddion

Parhau i fuddsoddi yn hyfforddiant parhaus ein gweithwyr gofal yn hanfodol

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Yn y golofn fis yma, rwy’n canolbwyntio ar darged cenedlaethol arall rydyn ni’n anelu at ei gyflawni fel rhan o’n cynllun pum mlynedd.

Hynny yw, cael gweithlu ar gyfer gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar sydd â’r cymwysterau, y wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd cywir.

Mae’n amser heriol iawn i’r sectorau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar. Mae’r gweithlu gofal yn parhau â’i ymdrechion i ddod dros effeithiau’r pandemig, gan orfod ymdopi hefyd â llawer o swyddi gwag sy’n anodd eu llenwi.

Mae hyn oll yn gosod mwy o bwysau ar y gweithwyr sy’n parhau i ddarparu’r gofal a’r cymorth y mae ar niferoedd cynyddol o bobl yng Nghymru eu hangen.

Fodd bynnag, er gwaethaf yr holl heriau hyn, ni allwn anghofio pa mor bwysig yw hi i barhau i wneud yn siŵr bod y gweithlu gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yn cael yr holl ddysgu a datblygiad cywir y mae ei angen arnynt i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel.

Mae addysg a hyfforddiant yn hollbwysig i’n helpu ni i ddenu mwy o bobl o ansawdd uchel a dal gafael arnynt.

Mae dysgu parhaus yn gwneud yn siŵr bod amgyffredion henffasiwn bod gwaith gofal yn swydd â sgiliau lefel isel yn cael eu herio. Yn wir, mae profiad a gwerthoedd mor hanfodol â chymwysterau ac mae cyfleoedd gwych i ddatblygu fel rhan o yrfa fuddiol.

Dyna pam mae’n rhaid i ni barhau i fuddsoddi mewn addysgu a hyfforddi’r gweithlu gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Mae’n bwysig bod y buddsoddiad hwn yn cael ei dargedu yn y ffordd gywir. Tan yn gymharol ddiweddar, darparwyd llawer o’n haddysg a’n hyfforddiant mewn ffyrdd traddodiadol.

Ond nawr, mae angen i ni wneud yn siŵr bod addysg a hyfforddiant yn bodloni anghenion gweithwyr gofal ac arweinwyr presennol a rhai’r dyfodol sydd eisiau mwy o hyblygrwydd o ran ble a sut maen nhw’n dysgu.

I wneud hyn, mae angen i ni fynd i’r afael â’r diffyg cyfatebiaeth rhwng cyflymder newid digidol a thechnolegol a’n gallu i’w gwreiddio yn ein gwaith bob dydd mewn gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar.

Er mwyn deall sut i wneud y mwyaf o fuddion ffyrdd digidol a hyblyg o ddysgu yn well, comisiynom y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE) i ddarganfod sut y gwnaeth mwy o ddibynnu ar ddysgu digidol yn ystod y pandemig effeithio ar staff gofal cymdeithasol rheng flaen.

Roeddem ni’n awyddus i wybod beth mae dysgu digidol yn ei olygu i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru ac a yw o fudd iddyn nhw neu’n eu herio.

Gwnaed ein hymchwil ar draws yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru.

Amlygodd yr adroddiad fod angen cymorth ar bobl i ddatblygu sgiliau digidol a’r cyfarpar cywir i ddysgu’n effeithiol.

Dangosodd fod dysgu digidol yn gallu rhoi hyblygrwydd i ddysgwyr a’i fod yn caniatáu iddyn nhw astudio’n annibynnol ac yn ôl eu cyflymder eu hunain. Hefyd, gall fod yn fwy cost-effeithiol, gan fod llai o deithio ac mae’r adnoddau digidol yn cyrraedd yn ehangach.

Ond hefyd, amlygodd rai heriau, yn bennaf oherwydd cysylltiad gwael â’r rhyngrwyd, mynediad prin at gyfarpar ac anghysondeb o ran ansawdd adnoddau digidol.

Dywedodd pobl eu bod am i ddysgu digidol fod yn fwy rhyngweithiol, i helpu cefnogi eu llesiant, gan fod dysgu ar-lein yn gallu golygu llai o gyfleoedd i feithrin perthynas a dysgu gan ei gilydd.

Maen nhw am gael cydbwysedd rhwng sesiynau digidol ac wyneb yn wyneb, hyfforddiant sy’n ymarferol ac yn rhyngweithiol, adnoddau o ansawdd uchel a’r cymorth cywir i ddysgu’n annibynnol.

Nawr, mae’n bwysig bod pob un ohonom ni yn y sector yn derbyn argymhellion yr adroddiad, sy’n cynnwys:

  • mabwysiadu ymagwedd genedlaethol at ddysgu digidol
  • cefnogi dysgwyr a darparwyr i ddatblygu sgiliau digidol
  • gwneud yn siŵr bod ffocws ar anghenion dysgwyr
  • cefnogi staff i gymhwyso dysgu i’w hymarfer.

Rydyn ni’n defnyddio’r canfyddiadau i ddatblygu adnoddau dysgu a datblygu a fydd o ddefnydd ymarferol i’n gweithwyr proffesiynol prysur yng Nghymru.

Dysgwch fwy am yr adroddiad