Jump to content
Ymchwil yn datgelu profiad y gweithlu gofal cymdeithasol o ddysgu digidol yn ystod pandemig Covid-19
Newyddion

Ymchwil yn datgelu profiad y gweithlu gofal cymdeithasol o ddysgu digidol yn ystod pandemig Covid-19

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae adroddiad ynglŷn ag effaith dysgu digidol ar y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi amlygu fod pobl angen cymorth i ddatblygu sgiliau digidol a’r offer cywir i’w helpu i ddysgu’n effeithiol.

Yn ystod pandemig Covid-19 roedd nifer o staff gofal cymdeithasol y rheng flaen yn ddibynnol ar ddysgu digidol ar gyfer hyfforddiant a datblygu. Fe wnaethom ni ofyn i’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE) i helpu i ni ddarganfod sut oedd hyn wedi effeithio ar bobl.

Yr hyn wnaethom ni ddarganfod

Datgelodd yr ymchwil fod rhai profiadau positif. Fe wnaeth awdurdodau lleol, darparwyr hyfforddiant a darparwyr gofal cymdeithasol weithio’n gyflym i alluogi’r gweithlu i ddysgu’n ddigidol.

Fe wnaethant ddarparu offer i sefydliadau lleol a gwella adnoddau digidol. Cafodd rhai o’r mentrau hyn eu hariannu gennym ni.

Dangosodd yr ymchwil fod dysgu digidol yn gallu cynnig hyblygrwydd ac yn caniatáu i bobl astudio’n annibynnol ar eu cyflymder eu hunain. Gall hefyd fod yn fwy effeithiol o ran cost ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol gan fod llai o deithio ac mae adnoddau digidol yn gallu cael eu rhannu’n fwy eang.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu heriau dysgu’n ddigidol. Cafodd rhai staff anhawster yn cael mynediad at adnoddau oherwydd cysylltiad gwael a’r fewnrwyd neu ddiffyg offer. Roedd ansawdd adnoddau digidol hefyd yn anghyson.

Canfu’r ymchwilwyr fod pobl eisiau dysgu digidol i fod yn fwy rhyngweithiol i helpu cefnogi eu llesiant, gan fod dysgu ar-lein yn gallu cynnig llai o gyfleoedd i ffurfio perthnasau a dysgu gan eraill.

Meddai Jon Day, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gweithlu: “Rydyn ni’n awyddus i wybod beth mae dysgu digidol yn ei olygu ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru ac a yw o fudd iddynt neu yn eu herio.

“Canolbwyntiodd ein hymchwil ar y meysydd hyfforddiant a reolir gan 20 rheolwr y gweithlu yn gweithio ar draws holl awdurdodau lleol Cymru. Fe wnaethom edrych ar dystiolaeth a holi rheolwyr gweithlu awdurdodau lleol, rheolwyr darparwyr gofal cymdeithasol, darparwyr hyfforddiant a staff gofal cymdeithasol am eu profiadau dros y ddwy flynedd diwethaf.

“Yn ogystal â rhannu eu profiadau o ddysgu digidol, roedd gan y bobl wnaethom ni siarad â hwy syniadau gwych ar gyfer y dyfodol. Maen nhw'n awyddus i gael cydbwysedd rhwng sesiynau digidol a rhai wyneb yn wyneb, hyfforddiant sy’n ymarferol ac yn rhyngweithiol, adnoddau o safon uchel a’r gefnogaeth briodol i ddysgu’n annibynnol.”

Argymhellion

Mewn ymateb i’r canfyddiadau, mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer gwella dysgu digidol yn y dyfodol. Mae’r prif argymhellion yn cynnwys:

  • partneriaid fel ni, awdurdodau lleol, darparwyr hyfforddiant a darparwyr gofal cymdeithasol yn cymryd ymagwedd Cymru gyfan tuag at ddysgu digidol
  • awdurdodau lleol yn cefnogi dysgwyr a darparwyr i ddatblygu sgiliau digidol
  • darparwyr hyfforddiant a darparwyr gofal cymdeithasol yn canolbwyntio ar anghenion dysgwyr
  • rheolwyr gofal cymdeithasol yn cefnogi staff i roi’r hyn maent wedi ei ddysgu ar waith.
Darllen yr adroddiad

Mae’r canfyddiadau llawn a’r awgrymiadau i weld yn yr adroddiad sydd ar gael ar wefan SCIE.