Mae diogelu pobl agored i niwed yn gyfrifoldeb ar bawb – dyna’r brif neges gennym ni.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru, a ddaeth i rym yn 2020, yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol i wneud yn siŵr eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.
Mae gwasanaethau cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw plant ac oedolion agored i niwed yn ddiogel rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
Bob hyn a hyn, gwelwn adroddiadau trallodus yn y cyfryngau, pan fydd methiant difrifol i amddiffyn ein pobl agored i niwed rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
Diolch byth, mae’r digwyddiadau hynny’n rhai prin iawn – a phan fyddant yn digwydd, bydd gwasanaethau cymdeithasol a’r asiantaethau eraill sydd ynghlwm yn edrych ar y gwersi a ddysgwyd i leihau’r risg y bydd digwyddiadau o’r fath yn digwydd eto.
Ond beth na welwn adroddiadau amdanynt yn y cyfryngau yw’r holl adegau niferus pan fydd timau gwasanaethau cymdeithasol ar draws Cymru wedi gwneud eu gwaith yn dda ac wedi camu i’r adwy i gadw plant ac oedolion yn ddiogel rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
Er bod gan ein timau gwasanaethau cymdeithasol rôl hanfodol i gadw plant ac oedolion yn ein cymunedau yn ddiogel, mae’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i amddiffyn ein dinasyddion mwyaf agored i niwed.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gwybod am arwyddion camdriniaeth neu esgeulustod a’n bod yn effro i’r arwyddion hyn, a’n bod yn gwybod gyda phwy i gysylltu os ydyn ni’n poeni am risg bosibl i blentyn neu oedolyn.
Mae sawl ffurf bosibl ar niwed a chamdriniaeth, gan gynnwys:
- cam-drin corfforol
- cam-drin emosiynol neu seicolegol
- cam-drin rhywiol
- cam-drin ariannol
- esgeulustod, sef methu bodloni anghenion sylfaenol person, sy’n debygol o achosi niwed i iechyd, llesiant neu ddatblygiad y person.
Fis diwethaf, lansiodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ymgyrch newydd fel rhan o’r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol.
Mae’r ymgyrch genedlaethol yn annog pobl i ddweud rhywbeth os byddant yn pryderu y gall fod risg niwed, camdriniaeth neu esgeulustod i blentyn neu oedolyn agored i niwed ac, yn hytrach na meddwl ‘Beth os ydw i’n anghywir?’, meddwl ‘Beth os ydw i’n gywir?’.
Mae’r ymgyrch yn annog pawb sy’n poeni i gysylltu â’u hadran gwasanaethau cymdeithasol yn lleol (cewch fanylion cyswllt ar wefan eich cyngor lleol) neu ffonio 101.
Fis diwethaf, lansiom y ‘Fframwaith hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol’ i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed.
Crëwyd y fframwaith mewn partneriaeth â chydweithwyr ar draws gwasanaethau cymdeithasol, gofal cymdeithasol, addysg, iechyd a’r gwasanaethau brys yng Nghymru, ac mae’n cyflwyno’r safonau ar gyfer lefel yr hyfforddiant diogelu a’r math o hyfforddiant diogelu y mae ar weithwyr proffesiynol eu hangen.
Y safonau oedd y cyntaf o’u math yng Nghymru a’u nod yw gwneud yn siŵr bod gan weithwyr proffesiynol ar draws Cymru lefelau a mathau cyson o hyfforddiant diogelu.
Os hoffech chi ddysgu mwy am ddiogelu, yr arwyddion i gadw llygad allan amdanynt a beth i’w wneud os ydych chi’n poeni bod risg i blentyn neu oedolyn, gallwch gwblhau ein modiwl hyfforddiant ar-lein.
Fe welwch y modiwl, a ddatblygwyd yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, ar ein gwefan.
Hefyd, gallwch ddysgu rhagor trwy ymweld â gwefan Gweithdrefnau Diogelu Cymru.