Jump to content
Newidiadau i gofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael ei roi ar waith
Newyddion

Newidiadau i gofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael ei roi ar waith

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae ffordd newydd i weithwyr gofal cymdeithasol gofrestru a gostyngiad yn nifer yr oriau o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) y mae’n rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol ei wneud i adnewyddu eu cofrestriad bellach wedi cael ei roi ar waith.

Mae’r newidiadau’n golygu y gall unrhyw un sy’n gwneud cais i gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru, nad oes ganddyn nhw’r cymhwyster gofynnol ar gyfer ei rôl, gwneud cais gan ddefnyddio’r llwybr asesiad gan gyflogwr.

Mae’r llwybr newydd yn galluogi cyflogwyr i asesu cymhwysedd eu gweithwyr a rhoi sicrwydd bod gan y gweithwyr y ddealltwriaeth briodol i gofrestru gyda ni.

Mae cyfanswm y DPP y mae’n rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol ei wneud i adnewyddu eu cofrestriad hefyd wedi’i leihau a bydd yn rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol bellach gwblhau o leiaf 45 awr o DPP bob tair blynedd yn hytrach na’r 90 awr flaenorol.

Bydd yn rhaid i weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol gwblhau 90 awr o DPP bob tair blynedd o hyd i adnewyddu eu cofrestriad.

Yn ogystal, mae’r cymhwyster ‘Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd’ wedi’i ychwanegu at y rhestr o gymwysterau y gall pobl eu cwblhau i gofrestru gyda ni yn dilyn adborth gan y sector.

Mae’r newidiadau wedi’u cyflwyno er mwyn helpu symleiddio’r broses gofrestru ac i’w wneud mor hawdd â phosib i bobl weithio ym maes gofal cymdeithasol.

Mae’r newidiadau wedi cael ei roi ar waith yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym ni’n gynharach eleni pan wnaethon ni amlinellu ein cynigion ar gyfer y newidiadau i gofrestru ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol.

Dywedodd 80 y cant o’r rhai a ymatebodd eu bod yn cefnogi cyflwyno’r llwybr asesiad gan gyflogwr, a dywedodd 77 y cant eu bod yn cefnogi’r cynllun i leihau faint o DPP y mae’n rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol ei wneud i adnewyddu eu cofrestriad.

Darllenwch yr ymateb i’r ymgynghoriad yma