Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn ein hymgynghoriad ar ‘Mae cofrestru yn newid’. Cawsom nifer fawr o ymatebion, ac rydym wedi ystyried eich adborth. Mae adroddiad sy'n crynhoi yr adborth a dderbyniwyd a'r camau nesaf nawr ar gael isod.
-
Ymgynghoriad wedi cau – ymateb wedi'i gyhoeddi
Yr ymgynghoriad
Ar hyn o bryd, mae dros 34,000 o weithwyr ar ein Cofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.
Bydd y nifer hwn yn cynyddu’n sylweddol eleni oherwydd mae’n rhaid i holl weithwyr cartrefi gofal i oedolion gofrestru gyda ni erbyn mis Hydref 2022. Bydd hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru’n cael ei reoleiddio.
Wrth i’r gweithlu gofal cymdeithasol barhau i dyfu, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i symleiddio’n proses gofrestru er mwyn ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl weithio yn y sector gofal cymdeithasol. Felly, rydym ni’n cynnig gwneud newidiadau i’r broses gofrestru.
Rydym eisiau’ch barn am ein cynigion ar gyfer:
- ffordd newydd o gofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol a lleihauamser cofrestru
- lleihau nifer yr oriau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) i weithwyr gofal cymdeithasol.
Mae’r ymgynghoriad ar agor am chwe wythnos a bydd yn cau am 5pm, 22 Mawrth 2022.
Sut ydw i’n cymryd rhan?
Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, lawrlwythwch y ddogfen ymgynghori isod a llenwi ein harolwg ar-lein byr. Gallwch ateb yr holl gwestiynau neu ddim ond y cwestiynau sydd bwysicaf i chi.
Hefyd, byddwn yn cynnal gweminar am 10am ar 15 Chwefror, lle gallwch rannu’ch barn a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gallwch gofrestru drwy e-bostio consultations@gofalcymdeithasol.cymru.
Yn ogystal, gallwch anfon eich ymateb drwy’r e-bost at consultations@gofalcymdeithasol.cymru
-
Ymgynghoriad ar newidadau i gofrestruDOCX 217KB