Jump to content
Naw o brosiectau a chwech o weithwyr neu dimau gofal wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau 2023
Newyddion

Naw o brosiectau a chwech o weithwyr neu dimau gofal wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau 2023

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae prosiect sy’n ceisio gwella ansawdd bywyd gofalwyr ifanc yng Ngwynedd a Môn, gwasanaeth seibiant byr i blant ag anghenion ychwanegol yng Nghasnewydd, a gweithiwr gofal cartref 79 oed o Sir Fynwy ymhlith y rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol y Gwobrau 2023.

Mae’r gwobrau yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu ymarfer rhagorol ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Mae’r Gwobrau yn agored i weithwyr gofal ar bob lefel, yn ogystal â thimau, prosiectau a sefydliadau o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol ac annibynnol sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.

Cafodd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni eu dewis gan banel o feirniaid sy’n cynnwys ein haelodau Bwrdd, cynrychiolwyr o sefydliadau partner, a phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gofal a chymorth.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn seremoni wobrwyo’r Gwobrau yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ddydd Iau, 27 Ebrill 2023.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Rydyn ni’n falch iawn o gael grŵp mor gryf yn y rownd derfynol sy’n dangos y gwaith gofal anhygoel sy’n cael ei wneud ledled Cymru.

“Mae eleni wedi bod yn flwyddyn heriol arall i’n gweithlu, ond er gwaethaf pob her, rydyn ni’n gwybod bod ein gweithwyr gofal yn parhau i fynd yr ail filltir i ddarparu gofal rhagorol i bobl Cymru.

“Mae mor bwysig ein bod yn rhoi o’n hamser i ddiolch i’r gweithwyr gofal hynny, a chydnabod a dathlu’r gofal a’r cymorth arbennig sy’n cael ei ddarparu bob dydd ym mhob cymuned yng Nghymru.

“Llongyfarchiadau i’r 15 a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Edrychaf ymlaen at eich croesawu chi i gyd i’r seremoni wobrwyo ar 27 Ebrill, ac at gydnabod, dathlu a rhannu eich ymdrechion a’ch llwyddiannau chi, a’r sector gofal ehangach.”