Jump to content
Dysgwch am y Gymraeg gyda'n modiwl e-ddysgu newydd
Newyddion

Dysgwch am y Gymraeg gyda'n modiwl e-ddysgu newydd

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gennym ni fodiwl e-ddysgu newydd i helpu pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant i ddysgu mwy am y Gymraeg a gweithio’n ddwyieithog.

Mae’r modiwl e-ddysgu Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn ymdrin â’r iaith Gymraeg, ei hanes a dwyieithrwydd. Mae'n edrych ar ymarferoldeb gweithio'n ddwyieithog ac yn egluro'r hyn y mae'r gyfraith yn ei ddweud sy'n rhaid i ni ei wneud a pham.

Mae’r modiwl yn cymryd tua 30 munud i’w gwblhau ac mae’n cyfrif tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig.

Mae’r modiwl wedi’i ddatblygu gan Sandie Grieve, ein Swyddog Arweiniol Datblygu a Chysylltu ar gyfer y Gymraeg. Meddai Sandie: "Mae’r modiwl e-ddysgu hwn yn adnodd newydd gwych ar gyfer y sector gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant.

“Mae’n dod â hanes yr iaith Gymraeg yn fyw ac yn egluro pam ei bod yn hanfodol bod gennym ni oll rywfaint o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r iaith a’i phwysigrwydd i bobl sy’n derbyn gofal a chymorth.

“Trwy gwblhau’r modiwl hwn, byddwch yn deall pwysigrwydd dewis iaith ac yn gweld y Gymraeg fel sgil a werthfawrogir, ar unrhyw lefel, fel gweithiwr gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant.”