Jump to content
Modiwl diweddaraf cwrs dysgu Cymraeg Camau ar gael nawr
Newyddion

Modiwl diweddaraf cwrs dysgu Cymraeg Camau ar gael nawr

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Yn ddiweddar, mewn partneriaeth â Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant, rydyn ni wedi creu cwrs dysgu Cymraeg am ddim i bobl sy’n gweithio o fewn gofal cymdeithasol. Rydyn ni’n gyffrous i gyhoeddi bod yr ail fodiwl, Sylfaen, yn barod i ddysgwyr ei gwblhau.

Mae’r cwrs Camau ar gael ar wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac mae’n cynnig dysgu hyblyg drwy gyrsiau byr. Mae’n canolbwyntio ar y geiriau a thermau y mae gweithwyr eu hangen fwyaf wrth gyfathrebu gyda’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.

Mae’r modiwl Sylfaen yn adeiladu ar y modiwl lefel Mynediad ac yn dysgu holl batrymau sylfaenol y Gymraeg.

Mae’r modiwl wedi ei rannu yn dair rhan o rhyw 20 awr o hunan astudio.

Os ydych chi wedi cofrestru gyda ni, bydd yn cyfrif tuag at eich datblygiad proffesiynol parhaus a bydd pawb sy’n cwblhau’r cwrs yn cael tystysgrif.

Cofrestru

Gallwch gofrestru ar gyfer y cwrs Sylfaen drwy wefan Dysgu Cymraeg.

Mae dau gwrs ar gael, yn defnyddio tafodiaith y gogledd neu’r de. Unwaith y byddwch wedi creu cyfrif gallwch gychwyn y cwrs yn syth trwy fynd i ‘Fy Nysgu’ o fewn eich cyfrif ar dysgucymraeg.cymru.

Cofrestrwch ar gyfer:

Mae'r modiwl Mynediad sy’n addas i ddechreuwyr ar gael hefyd, ar wefan Dysgu Cymraeg.

Ymuno â chymuned Camau

Rydyn ni hefyd wedi creu cymuned arlein sy’n ofod i ddysgwyr ymgysylltu â’i gilydd a rhannu eu profiadau am yr iaith Gymraeg.

Gallwch drafod sut yr ydych yn mwynhau’r cwrs a chefnogi eich gilydd tra’n rhannu yr hyn yr ydych wedi ei ddysgu i fagu hyder.

Ymunwch â’r gymuned yma.