Rydym am gefnogi a rhoi sicrwydd i’r rhai sy’n cymryd rhan yn ein hymchwiliadau a gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer, a helpu i wneud y broses mor hawdd â phosibl i’r rhai dan sylw.
Felly rydym wedi lansio rhaglen ‘cymorth llesiant addasrwydd i ymarfer’ newydd i helpu i arwain, cefnogi a rhoi sicrwydd i’r rhai sy’n ymwneud â’r broses.
Mae’r rhaglen yn cynnwys:
• gwybodaeth a fideos defnyddiol
Rydym wedi cyhoeddi tudalennau gwe newydd, sy’n cynnwys llawer o wybodaeth a fideos am yr hyn i’w ddisgwyl o’r broses addasrwydd i ymarfer.
• cymorth i'r rhai sy'n ymwneud ag ymchwiliad addasrwydd i ymarfer
Rydym yn gweithio gyda Wellbeing Solutions i ddarparu llinell gymorth llesiant annibynnol a chyfrinachol am ddim i unrhyw un sy’n ymwneud ag ymchwiliad addasrwydd i ymarfer.
Mae Wellbeing Solutions ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i roi cyngor ar gyllid, gwaith, llesiant a chymorth cwnsela. Gallwch gysylltu â Wellbeing Solutions ar 0808 169 8691.
• cefnogaeth i'r rhai y gofynnir iddynt roi tystiolaeth mewn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer
Weithiau byddwn yn gofyn i bobl sydd wedi rhoi datganiad tyst i ni i fynychu gwrandawiad. Rydym yn deall gall bod yn dyst achosi straen, felly rydym hefyd yn gweithio gyda Victim Support i roi cymorth i unrhyw un sy’n cael eu galw i roi tystiolaeth mewn gwrandawiad.
Gall Victim Support roi cymorth, arweiniad a chyngor i dystion drwy gydol y broses. Gallwch gysylltu â Victim Support ar 0808 196 8638.
Rydym yn gobeithio bydd ein dau wasanaeth cymorth, ynghyd â’n tudalennau gwe a fideos newydd, yn helpu i annog pobl i gymryd rhan mewn ymchwiliadau, a gwrandawiadau os gofynnir iddynt fod yn bresennol.
Dywedodd David Pritchard, ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio: “Fel rheoleiddiwr gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae’n ddyletswydd arnom i gadw pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth yn ddiogel.
“Rydym yn gobeithio y bydd ein rhaglen cymorth llesiant newydd yn rhoi gwybodaeth, arweiniad, cyngor a chymorth defnyddiol a chalonogol i’r rhai sy’n cymryd rhan yn ein proses addasrwydd i ymarfer a gwrandawiadau, yn ystod cyfnod sy’n gallu bod yn anodd ac yn llawn straen.”
Dysgwch fwy am ein gwasanaeth cymorth llesiant addasrwydd i ymarfer