Jump to content
Holiadur aeddfedrwydd data wedi ei anfon at awdurdodau lleol
Newyddion

Holiadur aeddfedrwydd data wedi ei anfon at awdurdodau lleol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n cynnal ymchwil i aeddfedrwydd data gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Fel rhan o’r prosiect hwnnw, mae holiadur wedi cael ei anfon at awdurdodau lleol sy’n gofyn cwestiynau am wahanol elfennau o sut maen nhw’n defnyddio data gofal cymdeithasol.

Rydyn ni wedi comisiynu Alma Economics i'n helpu i gyflawni’r gwaith hwn. Nhw sydd wedi anfon yr holiadur, a nhw fydd yn casglu’r ymatebion.

Fe wnaethon ni gysylltu ag awdurdodau lleol yn ddiweddar i ofyn pwy fyddai fwyaf addas i reoli’r broses hon yn eu sefydliad. Er mwyn cwblhau’r arolwg yn effeithiol, efallai y bydd angen i'r bobl hynny hefyd alw ar brofiad ac arbenigedd cydweithwyr eraill, gan gynnwys:

  • ymarferwyr gofal cymdeithasol
  • timau dadansoddol gofal cymdeithasol
  • rheolwyr data gofal cymdeithasol
  • cydweithwyr TGCh a gwasanaethau digidol
  • rheolwyr gofal cymdeithasol.

Bydd yr holiadur ar agor am fis. Rydyn ni’n disgwyl bydd yr holiadur yn cymryd un neu ddau ddiwrnod i'w gwblhau, gan gynnwys amser ar gyfer trafodaethau gyda chydweithwyr. Mae croeso i chi ledaenu’r amser hwn ar draws y mis, ac nid oes angen cwblhau’r holiadur mewn un eisteddiad.

Ar ddiwedd y prosiect, byddwn yn anfon adroddiad cryno at bob awdurdod lleol, ac adborth ar y camau y gall eu cymryd i wella ei aeddfedrwydd data. Ni fydd yr adroddiadau a’r adborth hyn yn cael eu rhannu y tu allan i’r sefydliad y maent yn ymwneud ag ef.

Unwaith y bydd pob un o’r 22 awdurdod lleol wedi’u hasesu, bydd adroddiad trosfwaol yn cael ei ysgrifennu a’i rannu drwy ein gwefan. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi trosolwg i ni o dirwedd data gofal cymdeithasol Cymru. Bydd awdurdodau lleol yn aros yn ddienw yn yr adroddiad hwn.

Cefnogaeth i gwblhau’r holiadur

Bydd Alma Economics wrth law i helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am gwblhau’r holiadur.

Byddan nhw’n cynnal sesiynau galw heibio rhithwir wythnosol lle gallwch chi ofyn unrhyw beth am yr holiadur neu’r broses asesu.

Cysylltwch â datamaturity@almaeconomics.com os hoffech chi fynychu un o’r sesiynau hyn, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Darganfod mwy

I gael gwybod mwy am y prosiect, ewch i'n tudalen asesiad aeddfedrwydd data, neu gysylltwch â Jeni Meyrick, ein Harweinydd Llywodraethu Gwybodaeth, ar jeni.meyrick@gofalcymdeithasol.cymru.