Rydym yn gwneud newidiadau i’n codau ymarfer proffesiynol, canllawiau ymarfer ac egwyddorion addasrwydd i ymarfer i wneud yn siŵr eu bod yn addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Er mwyn ein helpu i wneud hyn, rydym am glywed eich barn amdanynt. Ydyn nhw dal yn addas? Oes yna bethau ar goll? Sut ydych chi'n eu defnyddio ar hyn o bryd?
Byddwn yn defnyddio eich adborth i lunio ymgynghoriad ar ein newidiadau arfaethedig, a byddwn yn ei rannu yn 2024, gyda’r bwriad o wneud unrhyw newidiadau yn 2025.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i’r gwaith hwn fynd ymlaen ac yn rhoi gwybod i chi sut mae pethau’n mynd.
Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Disgwylir i bob gweithiwr gofal cymdeithasol, rheolwr a chyflogwr yng Nghymru weithio’n unol â’n codau ymarfer proffesiynol a’n canllawiau ymarfer, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn eu hadolygu’n rheolaidd ac yn cofnodi eich safbwyntiau amdanynt.
“Rydyn ni’n awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol amdanyn nhw i wneud yn siŵr eu bod nhw’n addas ac yn cwrdd â’ch anghenion.
“Bydd adolygu’r codau ymarfer proffesiynol a’r canllawiau ymarfer hefyd yn ein helpu i wneud yn siŵr eu bod yn hawdd i weithwyr, rheolwyr a chyflogwyr eu dilyn a’u deall, a fydd yn ei dro yn helpu i gadw pobl sy’n dibynnu ar ofal a chymorth yn ddiogel.”