Jump to content
Gwiriwr lefel iaith Cymraeg ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol
Newyddion

Gwiriwr lefel iaith Cymraeg ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Gall gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru bellach ddefnyddio rhaglen ar-lein am ddim i asesu eu sgiliau Cymraeg. Rydyn ni wedi cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu ‘Gwiriwr Lefel’ ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.

Mae’r Gwiriwr Lefel yn asesiad ar-lein i’ch helpu i ddarganfod lefel eich Cymraeg o ran sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Rydych chi'n cwblhau cyfres o asesiadau ar-lein, ac mae eich canlyniadau yn nodi lefel eich Cymraeg - o lefel mynediad hyd at hyfedredd.

Gall unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ddefnyddio’r Gwiriwr Lefel i asesu eu gallu yn y Gymraeg. Mae am ddim i’w ddefnyddio ac ar gael ar ffonau symudol, tabledi a chyfrifiaduron.

Meddai Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Mae’r Gwiriwr Lefel yn adnodd gwych i helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i ddarganfod pa allu Cymraeg sydd ganddyn nhw. Mae llawer o bobl yn deall mwy o Gymraeg nag y maent yn sylweddoli, felly efallai y bydd y canlyniadau yn rhoi hwb i hyder rhai gweithwyr.

“Ar ôl cwblhau’r asesiad, y cam nesaf i rywun sydd â diddordeb mewn gloywi eu Cymraeg yw cofrestru ar un o’n cyrsiau Camau. Mae’r rhain wedi eu creu yn arbennig ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, maent yn rhad ac am ddim ac yn cynnig dysgu hyblyg ar-lein.”

Mae'r Gwiriwr Lefel ar gael yma.

Gallwch ddarganfod mwy am ein cyrsiau Camau ar wefan Dysgu Cymraeg. Mae dau gwrs gwahanol ar gael, ar gyfer gogledd a de Cymru.