Mae Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru Sue Evans wedi croesawu cydnabyddiaeth y Llywodraeth bod gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol yn weithwyr allweddol wrth helpu mynd i’r afael â coronafeirws.
“Dydyn nhw ddim yn aml yn gwisgo’r bathodynnau neu iwnifformau pobl fel plismyn a nyrsys, felly efallai na fyddwch chi’n eu hadnabod ar y stryd. Ond dydy hynny ddim yn golygu bod gweithwyr gofal yn llai gwerthfawr o ran helpu cadw ein pobl sydd fwyaf agored i niwed yn ddiogel ac yn iach, trwy gwrdd â’u hanghenion emosiynol a phersonol.
“Ond mae braidd yn siomedig ei fod wedi cymryd argyfwng digynsail fel coronafeirws i ysgogi’r math yma o gydnabyddiaeth i weithwyr sy’n hanfodol i ddarparu gofal a chymorth gwych, 24 awr y dydd, 365 diwrnod o’r flwyddyn i bobl o bob oed ym mhob cymuned ledled Cymru.
“Yn yr argyfwng presennol hwn, pan fydd yn debygol y bydd galw mor uchel am glinigwyr a gwelâu, bydd yn bwysig bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty ar yr adeg iawn, a bydd gweithwyr gofal yn angenrheidiol i wneud hyn digwydd trwy ddarparu’r gofal sydd eu hangen arnyn nhw adref.
“Er mwyn sicrhau bod hyn yn gweithio’n dda, bydd partneriaethau cryf rhwng gwasanaethau cymdeithasol lleol, darparwyr gofal cymdeithasol a’r GIG yn hanfodol i gadw ein system iechyd a gofal cymdeithasol i fynd ac i drin y rhai sy’n cael eu heffeithio gan y firws yn llwyddiannus.
“Gobeithio, pan fydd yr argyfwng hwn drosodd, a bydd gweithwyr gofal, fel erioed, wedi dangos yn glir pa mor werthfawr ydyn nhw i’n cymdeithas, byddant yn parhau i gael eu cydnabod fel gweithwyr allweddol. Gall hyn olygu y bydd arian wedyn ar gael i godi tâl a thelerau ac amodau i lefelau sy’n fwy tebyg i weithwyr y GIG ac sy’n adlewyrchu’n well y cyfraniad y mae gweithwyr gofal yn ei wneud i’n llesiant,” ychwanegodd Sue.
Mwy o wybodaeth am Coronafeirws a'n gwaith: yr hyn y mae angen i chi ei wybod.