Y gwanwyn hwn rydyn ni’n cynnal gweithdai ar-lein am ddim er mwyn helpu rheolwyr i gefnogi timau i fod yn fwy gwydn a hapusach ac iachach yn y gwaith.
Ar y cyd â Happy Headwork, rydyn ni’n cynnal pum gweithdy ar-lein, sy'n agored i reolwyr ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant yma yng Nghymru.
Mae'r gweithdai'n rhad ac am ddim, ac mae'r pynciau’n cynnwys:
- ymarfer empathi tosturiol
- ffiniau tosturiol yn y gweithle
- hyder dilys, pendantrwydd a chymhelliant yn y gwaith
- creu timau cydlynus a chynhwysol
- datrys gwrthdaro â thosturi.
Gall mynychwyr ddefnyddio'r gweithdai tuag at eu datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) os ydynt wedi'u cofrestru gyda ni.