Jump to content
Gwahoddwyd cyn-weithwyr cymdeithasol i ddychwelyd i ymarfer
Newyddion

Gwahoddwyd cyn-weithwyr cymdeithasol i ddychwelyd i ymarfer

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gwahodd yr holl weithwyr cymdeithasol sydd wedi gadael y proffesiwn i ystyried ail-ymuno yn yr argyfwng presennol.

Mae cofrestriad dros dro newydd ar gael i'r gweithwyr cymdeithasol hynny sydd wedi gadael yn ystod y tair blynedd diwethaf, gyda llwybr cyflym i ymgeisio a dim ffi i'w dalu.

Dywedodd David Pritchard, Cofrestrydd Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae gofal cymdeithasol ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn coronafeirws. Rydym yn gofyn i holl weithwyr cymdeithasol y gorffennol ystyried dod yn ôl i gefnogi ein gwasanaethau ar yr adeg dyngedfennol hon. Ein neges i gyn weithwyr cymdeithasol yw - cysylltwch â ni a byddwn yn sicrhau y gallwch chi adennill eich cofrestriad proffesiynol i ymarfer.”

Mae awdurdodau lleol yn awyddus i recriwtio mwy o staff gofal ar yr adeg anodd hon. Bwriad y trefniadau cofrestru newydd yw sicrhau bod pawb sydd eisiau cefnogi'r frwydr yn erbyn coronafeirws yn gallu gwneud hynny’n ddi-oed.

Mwy o wybodaeth ar COVID-19: cofrestriad dros dro gweithwyr cymdeithasol.