Rydyn ni mewn amseroedd digynsail ac mae'n hanfodol ein bod ni'n cael cymaint o ymarferwyr ar y rheng flaen i helpu i fynd i'r afael ag effeithiau coronafeirws. Dyna pam yr ydym yn trefnu i gofrestru dros dro gweithwyr cymdeithasol a oedd wedi'u cofrestru gyda ni yn y gorffennol. Yma ceir wybodaeth ar sut i gofrestru dros dro fel gweithiwr cymdeithasol gyda ni.
Sut i gofrestru dros dro fel gweithiwr cymdeithasol
Nid oes ffurflen gais ac mae am ddim.
Os ydych chi wedi gadael ein Cofrestr yn ystod y tair blynedd diwethaf ac yn dymuno dychwelyd i ymarfer dros dro fel gweithiwr cymdeithasol, e-bostiwch ein tîm ymholiadau yn ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru a gadewch i ni wybod eich bod chi am gofrestru dros dro.
Yn eich e-bost dylech gynnwys:
- eich enw
- rhif ffôn
- y sir rydych chi'n bwriadu ymarfer ynddi.
Hefyd, mae rhaid i chi gadarnhau nad ydych chi:
- ar unrhyw restr waharddedig
- wedi eich cael yn euog o unrhyw droseddau ers gadael ein Cofrestr
- yn destun gorchymyn tynnu oddi wrth gorff rheoleiddio.
Yna cewch eich ychwanegu at y gofrestr dros dro. Bydd y gofrestr dros dro yn cynnwys:
- eich enw
- rhif cofrestru
- sir lle rydych chi'n bwriadu ymarfer
- y dyddiad y gwnaethoch ymuno â'r rhestr o weithwyr cymdeithasol sy'n dychwelyd.
Mae'r wybodaeth hon yn caniatáu i gyflogwyr wirio'ch statws cofrestredig. Bydd y rhestr o weithwyr cymdeithasol cofrestredig hyn ar gael ar y gofrestr dros dro o weithwyr cymdeithasol.
Nid ydym yn gwybod pa mor hir y bydd y sefyllfa bresennol yn para, ond rydym yn disgwyl cadw gweithwyr cymdeithasol sydd wedi cofrestru dros dro ar y rhestr ar gyfer argyfwng COVID-19 cyfan.
Gwyddom fod awdurdodau lleol yng Nghymru yn awyddus i ddod â staff proffesiynol profiadol yn ôl i gefnogi’r ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng digynsail hwn. Rydym yn argymell eich bod yn ymweld â gwefan eich awdurdod lleol i wneud ymholiadau - byddant wrth eu bodd yn clywed gennych.
Dilyn y Côd Ymarfer
Er mai cofrestr dros dro yw hon, bydd gennych yr un cyfrifoldebau ag unrhyw berson cofrestredig arall, sy'n cynnwys:
- dilyn y Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol a'r canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr cymdeithasol. Gall methu â chydymffurfio ag unrhyw safon yn y Côd arwain at gilio eich cofrestriad
- ein hysbysu am unrhyw newidiadau i'ch manylion rydych chi wedi'u darparu gan sicrhau bod unrhyw wybodaeth a roddwch yn wir ac yn gywir.
Mwy o wybodaeth am y Côd Ymarfer Proffesiynol a Chanllawiau Ymarfer.
Os codir pryder amdanoch tra'ch bod ar y gofrestr dros dro
Os codir pryder gyda ni, gallwn ymchwilio, a gall eich enw gael ei dynnu oddi ar y Gofrestr os yw'r pryder o natur ddifrifol.
Mwy o wybodaeth am sut rydym yn delio â phryderon.
Gwybodaeth i gyflogwyr gwaith cymdeithasol
Lansiwyd y Gofrestr hon mewn ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus. Rydym yn cofrestru gweithwyr cymdeithasol ar y sail nad oes unrhyw newid bod i'w statws ers gadael y Gofrestr.
Eich cyfrifoldeb chi fel cyflogwr yw sicrhau bod unrhyw un rydych yn eu cyflogi ar y gofrestr dros dro yn ddiogel i ymarfer.
Data ar y gofrestr dros dro o weithwyr cymdeithasol
Mae data newydd am nifer y gweithwyr cymdeithasol ar y gofrestr dros dro wedi ei gyhoeddi. Mae'r wybodaeth yn cael ei diweddaru am 8 am bob dydd.
Mae'r gwybodaeth yn dangos yr ardal y mae gweithiwr wedi'i mynegi maent yn bwriadu gweithio ynddi, mewn rhai achosion mae gweithiwr wedi dewis mwy nag un awdurdod lleol. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm y gweithwyr yn ôl awdurdod lleol yn uwch na chyfanswm yr unigolion ar y gofrestr dros dro.
Ewch i'r data am leoliad y rhai ar gofrestr dros dro gweithwyr gofal cymdeithasol
Rheolau Cofrestru Gweithwyr Cymdeithasol mewn argyfwng 2020
Mae'r rheolau hyn wedi'u rhoi ar waith i weithredu newid i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 sy'n rhan o Ddeddf Coronafeirws 2020.
Rheolau dros dro yn unig ydyn a bydd y dyddiadau effeithiol yn cael eu cyhoeddi gan y Cofrestrydd pan fydd y rheolau yn cael eu defnyddio neu gant eu tynnu o ddefnydd.

Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.