Jump to content
Galwad am arbenigwyr: helpwch ni i gefnogi mwy o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i ddod yn arweinwyr gofal cymdeithasol
Newyddion

Galwad am arbenigwyr: helpwch ni i gefnogi mwy o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i ddod yn arweinwyr gofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ydych chi’n gweithio mewn gofal cymdeithasol ac yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol? Hoffwn glywed gennych chi!

Rydyn ni’n cynnal sesiynau grŵp er mwyn i chi siapio rhaglenni arweinyddol sy’n deg i bobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

Dyma'r cam nesaf o'n gwaith i gefnogi Cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.

Rydyn ni yn barod wedi gofyn i bobl o leiafrifoedd ethnig sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol sut mae pethau nawr, a pa fath o gefnogaeth bydd y n eu helpu i symud i rolau arweiniol.

Nawr, hoffwn ni eich gwahodd i ymuno â’n grwpiau cynghori arbenigol, i ddefnyddio beth rydyn ni wedi dysgu i siapio rhaglenni neu gyfleoedd sy’n cwrdd âag anghenion y bobl sydd wedi rhoi adborth i ni.

Rydyn ni am sicrhau bod rhaglenni datblygu arweinyddiaeth yn y dyfodol yn gynaliadwy, yn wrth-hiliol, yn deg ac yn gyfiawn i bob arweinydd gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ynglŷn â’r sesiynau

Mae'r sesiynau ar gael i unrhyw un o gefndir ethnig lleiafrifol sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys staff a rheolwyr.

Bydd pob sesiwn yn para tua dwy awr ac yn digwydd dros Zoom.

Dim ond un sesiwn sydd rhaid i chi fynychu.

Cewch daleb £45 i wario ar Amazon, i ddiolch i chi am eich amser.

Rydyn ni wedi gofyn i Institiwt Gofal Cyhoeddus (IPC) Oxford Brookes i gynnal y sesiynau yma i ni.

Caiff y sesiynau eu harwain gan Tutu Adebiyi a Christine Wint.

Os ydych chi’n teimlo’n annifyr yn trafod eich profiadau personol, bydd rhywun i chi siarad gydag ar ôl y sesiwn.

Ymuno â sesiwn

I ymuno ag un o’r sesiynau, cliciwch ar y dyddiad hoffech chi fynychu. Bydd y ddolen yn agor ystafell gyfarfod Zoom.

Dim ond un sesiwn sydd rhaid i chi fynychu.

Sesiwn 1: 11am i 1.00pm, dydd Sadwrn 20 Ebrill

Sesiwn 2: 11.30am i 1.30pm, dydd Iau 25 Ebrill

Sesiwn 3: 4pm i 6pm, dydd Iau 25 Ebrill