Jump to content
Ein Prif Weithredwr Sue Evans yn cael OBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin
Newyddion

Ein Prif Weithredwr Sue Evans yn cael OBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Llongyfarchiadau i’n Prif Weithredwr, Sue Evans, sydd wedi cael OBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2024.

Dyfarnwyd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig i Sue am ei gwasanaethau i ofal cymdeithasol, ar ôl dros 32 mlynedd o weithio yn y sector cyhoeddus.

Daeth Sue â phrofiad o fod yn ofalwr di-dâl yn ogystal â chefndir yn y sector gwirfoddol gyda hi pan ymunodd â’r GIG ym 1992, lle symudodd o feddygaeth iechyd cyhoeddus i rolau rheoli amrywiol yn ystod ei 20 mlynedd yno.

Daeth cefndir Sue â hi i’r rheng flaen o ran diwallu anghenion plant, pobl ifanc ac oedolion ag anableddau. Sbardunodd hyn ei diddordeb mewn gyrfa ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a thai.

Rhwng 2006 a 2012, roedd Sue yn gyfrifol am gynllunio, comisiynu a darparu ystod o wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thai fel Cyfarwyddwr Ardal ar y Cyd ac yn ddiweddarach fel Prif Swyddog yn Nhorfaen.

Roedd hyn yn cynnwys rôl Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, tan fis Gorffennaf 2016, pan ddaeth yn Brif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru yn goruchwylio’r gwaith o’i drawsnewid i fod yn Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dan arweiniad Sue, mae’r Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol wedi tyfu o 11,000 i fwy na 60,000 o bobl gofrestredig, gan ychwanegu gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr gofal cartref.

Mae ehangu’r Gofrestr yn golygu bod dros 80 y cant o’r gweithlu bellach yn cael eu rheoleiddio a’u cefnogi i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd da ledled Cymru.

Mae Sue hefyd wedi goruchwylio’r gwaith o ddatblygu cymwysterau galwedigaethol newydd ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant, a phorth swyddi sydd wedi’i greu i ddarparu siop un stop ar gyfer cyflogwyr a cheiswyr gwaith yng Nghymru.

Ar ben hynny, bu Sue a’i thîm yn gweithio mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddatblygu’r strategaeth gyntaf ar y cyd ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Yn fwy diweddar, mae tîm Sue wedi sefydlu ystod eang o wasanaethau i gefnogi'r sector gydag adnoddau ymchwil, data ac arloesedd.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Sue y byddai’n ymddeol ym mis Gorffennaf ar ôl mwy nag wyth mlynedd wrth y llyw yng Ngofal Cymdeithasol Cymru.

Dywedodd Sue: “Mae wedi bod yn fraint sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru a gweithio gyda’r Bwrdd, y tîm a’n partneriaid, i gefnogi Llywodraeth Cymru a chydweithwyr yn y sector i wella gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn barhaus.

“Hoffwn gofnodi fy niolch i bawb sy’n gweithio yn y rheng flaen, eu rheolwyr a’u harweinwyr a hoffwn ddymuno taith lwyddiannus barhaus i Ofal Cymdeithasol Cymru.”

Dywedodd Mick Giannasi, ein Cadeirydd: “Rwy’n gwybod fy mod yn siarad dros bawb yng Ngofal Cymdeithasol Cymru pan rwy’n dweud ein bod wrth ein bodd bod ymroddiad ac ymrwymiad Sue wedi cael ei gydnabod fel hyn.

“Mae’r wobr yn hynod o haeddiannol ac yn deyrnged deilwng i’w chyfraniad enfawr at ddatblygu’r sectorau gofal cymdeithasol, plant a blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn ystod oes o wasanaeth cyhoeddus.”