Ar hyn o bryd mae dros 50,000 o weithwyr ar ein Cofrestr a bydd y nifer hwn yn cynyddu os bydd rheolwyr a gweithwyr preswyl ysgolion arbennig yn cofrestru gyda ni. Bydd hyn yn golygu y bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cofrestru ac yn rheoleiddio’r rhan fwyaf o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Wrth i’r gweithlu gofal cymdeithasol dyfu, gwyddom pa mor bwysig yw sicrhau bod ein gofynion cofrestru yn syml, fel ei bod mor hawdd â phosibl i bobl weithio yn y sector gofal cymdeithasol.
Rydyn ni am wneud cofrestru ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol yn symlach drwy gyflwyno ffordd newydd o gofrestru. Rydyn ni hefyd eisiau rhoi mwy o amser i weithwyr gofal cymdeithasol gwblhau cymwysterau cyn y bydd yn rhaid iddyn nhw adnewyddu eu cofrestriad. Gallwch ddweud wrthym beth yw eich barn am y newidiadau yr hoffem eu gwneud i’r broses gofrestru.
Mae Llywodraeth Cymru i fod i ystyried a ddylai cofrestru fod yn ofyniad ar gyfer gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig. Rydyn ni eisiau eich barn am ofynion cofrestru a chanllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr a gweithwyr preswyl ysgolion arbennig.
Dywedodd David Pritchard, ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r rhanddeiliaid yn y sector sydd wedi ein helpu ni i ddatblygu’r cynigion hyn. Ein gobaith yw y gallan nhw gynnig gwell hyblygrwydd i weithwyr a rheolwyr, gan gynnig gofynion symlach i’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.”
Sut i ymateb
Gallwch weld yr ymgynghoriad ar ein gwefan a dweud eich dweud drwy lenwi arolwg byr ar-lein neu drwy anfon e-bost atom gyda’ch ymatebion.
Rydyn ni hefyd yn cynnal gweminar dros Zoom am 10am ar 14 Mehefin, lle byddwch chi’n gallu gofyn cwestiynau a rhannu eich safbwyntiau.
Ychwanegodd David Pritchard: “Rydyn ni’n awyddus i glywed gan gynifer o leisiau â phosibl yn yr ymgynghoriad hwn, ac rydyn ni’n croesawu cyfraniadau gan weithwyr, rheolwyr ac aelodau o’r cyhoedd.”
Mae’r ymgynghoriad ar agor, a bydd yn dod i ben am 5pm, 14 Gorffennaf 2023.