Wythnos yma rydyn ni’n ffarwelio â phedwar aelod sydd wedi bod ar ein Bwrdd ers tro: Damian Bridgeman, Donna Hutton, Jane Moore a Peter Max.
Ymunodd Donna, Jane a Peter â ni ym mis Ebrill 2017 pan ffurfiwyd Gofal Cymdeithasol Cymru, ac mae Damian wedi bod yn aelod Bwrdd ers mis Ebrill 2014.
Yn wreiddiol, roedd Damian yn aelod o Fwrdd ein sefydliad blaenorol, sef Cyngor Gofal Cymru, ac arhosodd ymlaen wrth i ni newid i fod yng Ngofal Cymdeithasol Cymru er mwyn darparu parhad ar lefel y Bwrdd.
Fel aelodau o’r Bwrdd, mae’r pedwar wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o graffu ar ein gwaith a sicrhau ein bod yn dilyn ymarfer da wrth lywodraethu.
Maen nhw hefyd wedi cyfrannu at ein gwaith ar lefel genedlaethol, er enghraifft, drwy fod yn feirniaid ar gyfer y Gwobrau.
Hoffem ni ddiolch yn fawr iawn i Damian, Donna, Jane a Peter am eu hymrwymiad a’u cefnogaeth, ac am gyfrannu eu dealltwriaeth a’u harbenigedd i’n Bwrdd yn ystod eu cyfnod yn y rôl.
Dywedodd Mick Giannasi, ein Cadeirydd: “Dros y saith mlynedd diwethaf, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi ennill enw da fel ffynhonnell ddibynadwy a gwerthfawr o arweinyddiaeth a chefnogaeth genedlaethol i’r sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Mae hynny’n rhannol oherwydd y trefniadau llywodraethu corfforaethol effeithiol sydd wedi cael eu rhoi ar waith i alluogi’r sefydliad i gyflawni ei gylch gwaith.
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Damian, Donna, Jane a Peter am eu cyfraniad aruthrol at ddatblygu’r trefniadau hynny a dymunwn yn dda iddyn nhw ym mhennod nesaf eu bywydau.”
Mae proses recriwtio i ddod o hyd i aelodau newydd i olynu Damian, Donna, Jane a Peter wedi dod i ben yn ddiweddar ac rydyn ni'n disgwyl cyhoeddiad amdano'n fuan.
Gwybodaeth am ein haelodau’r Bwrdd sy’n ymadael
Mae Damian yn entrepreneur profiadol sydd â chenhadaeth gymdeithasol. Mae’n rhedeg cwmni hyfforddi sy’n arbenigo mewn hyfforddi gweithredol i arweinwyr y llywodraeth, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a gweision sifil. Mae ganddo brofiad o gyfathrebu ac ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth gan ganolbwyntio ar wasanaethau cadair olwyn ac adsefydlu. Mae hefyd wedi darlithio ar faterion sy’n ymwneud ag anabledd a gofal.
Cyn ei hymddeoliad, roedd Donna yn gyfrifol am y sector gofal cymdeithasol yn UNSAIN ac yn ddiweddarach bu’n gweithio gyda’r sector iechyd. Hi yw Cadeirydd RSPCA Cymru ar hyn o bryd.
Mae gan Jane 40 mlynedd o brofiad o weithio ym maes gwasanaethau plant awdurdodau lleol ac yn fwy diweddar, mae wedi arbenigo mewn darparu gwasanaethau i blant sy’n derbyn gofal. Mae Jane hefyd wedi bod yn rheolwr prosiect yn y gorffennol ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a’r Fframwaith Maethu Cenedolaethol.
Bu Peter yn Unigolyn Cyfrifol i grŵp cartrefi gofal yng Nghymru am 15 mlynedd ac mae ganddo brofiad uniongyrchol o sefydlu a darparu gwasanaethau rheoledig. Ar hyn o bryd, mae’n gyfarwyddwr canolfan breswyl i deuluoedd ac yn dal rôl cyfarwyddwr anweithredol gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.