Jump to content
Dewch i glywed gan ymchwilwyr blaenllaw gofal cymdeithasol am bynciau sydd o bwys i chi
Newyddion

Dewch i glywed gan ymchwilwyr blaenllaw gofal cymdeithasol am bynciau sydd o bwys i chi

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n cynnal dwy sioe deithiol er mwyn i chi gael gwybod mwy am y pynciau ymchwil sydd o bwys i chi.

Rydyn ni wedi ymuno ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i drefnu’r digwyddiadau yn Llandudno ar 23 Mai a Chaerdydd ar 13 Mehefin.

Yn ddiweddar, gweithion ni gyda’r James Lind Alliance i ofyn i ymarferwyr a phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth pa faterion a chwestiynau oedd yn bwysicach iddyn nhw.

Llwyddodd y gwaith hwn i helpu ni ddod o hyd i'r 10 prif flaenoriaeth ymchwil mewn gofal a chymorth i bobl hŷn a phlant a theuluoedd.

Ond daeth yn glir fod gan bobl cwestiynau am bynciau y mae ymchwil yn bodoli ar eu cyfer yn barod.

Rydyn ni am ddod a mwy o'r ymchwil hwnnw i'ch sylw.

Bydd y sioeau teithiol yn cynnwys cyflwyniadau gan ymchwilwyr o bob rhan o Gymru. Yna cewch gyfle i drafod y pynciau yn fanylach gyda’r ymchwilwyr eu hunain ac ymarferwyr eraill.

Caiff y digwyddiad gyntaf ei chynnal yn Venue Cymru yn Llandudno a bydd yn edrych ar gymorth i blant a theuluoedd.

Bydd yr ail yn cael ei chynnal yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd, a bydd yn canolbwyntio ar ofal a chymorth i bobl hŷn.

Pynciau y byddwn yn trafod

Cymorth i blant a theuluoedd – Venue Cymru, Llandudno, 23 Mai, 9.30am i 3.45pm

  • Costau byw
  • Atal plant rhag bod mewn gofal
  • Pobl ifanc a risg
  • Gwaith yn seiliedig ar gryfderau gyda phlant a theuluoedd
  • Plant sy’n derbyn gofal

Gofal a chymorth i bobl hŷn – Neuadd y Ddinas, Caerdydd, 13 Mehefin, 9.30am i 3.45pm

  • Gwerthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
  • Cefnogaeth i ofalwyr di-dâl
  • Gofalu am yr holl berson hŷn
  • Gwaith cymdeithasol gyda phobl hŷn yn ei gyd-destun
  • Technoleg mewn gofal cymdeithasol i oedolion

Archebwch le: Llandudno

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad ar 23 Mai ar gael am ddim trwy Eventbrite.

Archebwch le: Caerdydd

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad ar 13 Mehefin ar gael am ddim trwy Eventbrite.