Jump to content
Dewch i glywed gan banel arbenigol am Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu a’r hyn y mae’n ei olygu i ofal cymdeithasol
Newyddion

Dewch i glywed gan banel arbenigol am Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu a’r hyn y mae’n ei olygu i ofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni'n cynnal sesiwn banel am Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu (SCHG) a'r hyn y mae'n ei olygu i ofal cymdeithasol yng Nghymru ar 8 Chwefror.

Adnodd yw Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu i helpu i fonitro profiad pobl o leiafrifoedd ethnig sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd yr adnodd yn amlygu lle mae gwahaniaethau rhwng profiad staff iechyd a gofal cymdeithasol gwyn, du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Bydd hyn yn cefnogi sefydliadau i dargedu camau gweithredu i fynd i’r afael â’r materion mwyaf a gwella profiadau’r gweithlu lleiafrifoedd ethnig.

Rydyn ni’n dod â phanel o arbenigwyr ynghyd i gyflwyno Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu a thrafod sut y gellir ei defnyddio i ysgogi newid diwylliannol ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Byddwn ni’n cynnal y digwyddiad rhwng 2pm a 3pm ar ddydd Iau 8 Chwefror ar Zoom.

Gobeithiwn y gallwch chi ymuno â ni i ddysgu mwy am Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu.

Cwrdd â'r panel

Cyd-gadeiryddion

Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru

Y panel

Yr Athro Anton Emmanuel, Arweinydd Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu, Llywodraeth Cymru

Sue Evans, Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru

Abyd Quinn Aziz, Cyfarwyddwr Rhaglen yr MA mewn Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

Ymunwch â'r sesiwn

Cliciwch yma i gael mynediad i'r sesiwn ar Zoom am 2pm ar 8 Chwefror.

Darganfod mwy

I gael rhagor o wybodaeth am Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu, e-bostiwch data@gofalcymdeithasol.cymru.