Ymunwch â ni am ddigwyddiad a fydd yn amlygu gwerth ymchwil data cysylltiedig ym maes gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru.
Bydd Datgloi pŵer data gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru yn cael ei gynnal ar draws dau ddyddiad – un yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 23 Ionawr, a’r llall ar-lein ar 6 Chwefror.
Bydd y digwyddiadau yn dod â rhanddeiliaid ynghyd sydd â diddordeb mewn casglu, rhannu neu ddefnyddio data gofal cymdeithasol oedolion er budd y cyhoedd ac i wella polisïau ac arferion gofal cymdeithasol.
Bydd digwyddiad Caerdydd yn rhedeg o 9.30am tan 4pm, tra bydd y digwyddiad ar-lein yn dechrau am 10am ac yn gorffen am 2.30pm.
Ymhlith y rhai fydd yn bresennol bydd ymchwilwyr a llunwyr polisi, ynghyd â chynrychiolwyr o awdurdodau lleol, darparwyr gofal cymdeithasol annibynnol, y trydydd sector a’r cyhoedd.
Rydyn ni wedi ymuno ag YDG Cymru i drefnu’r digwyddiadau hyn, lle byddwn ni’n edrych ar gyfleoedd i wneud y gorau o ymchwil data gofal cymdeithasol oedolion.
Bydd y ddau ddigwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o weithdai, cyflwyniadau a thrafodaethau a fydd yn archwilio rôl ymchwil data cysylltiedig mewn gofal cymdeithasol oedolion.
Bydd yr agenda a’r siaradwyr yn debyg ar draws y ddau ddigwyddiad, gan gynnwys cyfraniadau gan Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, a Mike Emery, Prif Swyddog Digidol ac Arloesi (Iechyd a Gofal Cymdeithasol). Byddwn ni’n sicrhau bod recordiadau o’r digwyddiad ar-lein ar gael i bobl nad ydyn nhw’n gallu bod yn bresennol.