Jump to content
Dathlu’r gwaith rhagorol sy’n digwydd ar draws gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru
Newyddion

Dathlu’r gwaith rhagorol sy’n digwydd ar draws gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Yn nes ymlaen wythnos yma, bydda i’n cael yr anrhydedd o gyd-gyflwyno ein Gwobrau blynyddol, ochr yn ochr â chyflwynydd radio a theledu’r BBC, Garry Owen, yng Nghaerdydd.

Mae ein Gwobrau yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu’r gwaith rhagorol sy’n digwydd ar draws gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Eleni fydd y pedwerydd tro i mi gyd-gyflwyno’r Gwobrau gyda Garry ac mae’n ddigwyddiad rwy’n edrych ymlaen ato bob blwyddyn.

Yn aml, yr unig adeg i ni weld erthyglau yn y cyfryngau am bobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yw ar yr adegau hynod brin hynny pan fydd rhywbeth ofnadwy wedi mynd o’i le.

Anaml iawn rydyn ni’n gweld sylw i’r achlysuron di-ri pan fydd gofal a chymorth yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol tu hwnt i fywyd pobl.

Rydyn ni’n gwybod bod degau o filoedd o weithwyr gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar ymroddedig, ymrwymedig, sy’n gweithio’n galed, sy’n darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel drwy’r dydd, bob dydd, i bobl o bob oedran ac amgylchiadau, gan eu cynorthwyo i ffynnu a chyflawni’r pethau sydd bwysicaf iddyn nhw.

Y Gwobrau yw ein ffordd o daflu goleuni ar y gwaith amhrisiadwy hynny a’r bobl hynny sy’n gwneud iddo ddigwydd ac – yn holl bwysig – dweud diolch iddyn nhw am bopeth maen nhw’n ei wneud.

Eleni, roeddem ni’n falch iawn o dderbyn 93 o gynigion ac enwebiadau am y gwobrau, sy’n cael eu noddi gan y cwmni cyfreithwyr Hugh James, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd ac yn un o’r 100 prif gwmni cyfreithiol yn y DU. Dyma’r nifer ail uchaf yn hanes 19 mlynedd y gwobrau.

Roedd y safon yn eithriadol o uchel ac mae ein beirniaid wedi cael amser anodd yn torri’r rhain i lawr i’r 18 yn unig a ddaeth i’r brig.

Nid cyfrinach yw bod y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yn cael anawsterau difrifol oherwydd cyllidebau tynnach, problemau staffio a’r argyfwng costau byw.

Ond er gwaethaf yr heriau hyn, mae ein gweithwyr gofal yn parhau i fynd yr ail filltir i ddarparu gofal a chymorth rhagorol i bobl Cymru. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn cymryd yr amser hwn i gydnabod eu cyflawniadau.

Mae wyth prosiect a 10 o weithwyr neu dimau o bob cwr o Gymru wedi cyrraedd rownd derfynol y gwobrau. Dyma nhw:  

  • Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd: Prosiect Born into Care Cyngor Abertawe a Thîm Plentyn i Oedolyn Cyngor Sir y Fflint
  • Gwobr arweinyddiaeth effeithiol: Julie Reed, Lauren Lincez a Sandra Stacey
  • Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu: Seibiannau Byr y Fro Tŷ Robin Goch – Action for Children, Antur Waunfawr a Gwasanaethau Plant Powys
  • Gwobr Gofalwn Cymru: Linda Campbell, Nichola Wilcox, Rachel Hunt a Victoria Jones
  • Gweithio mewn partneriaeth: Meicro-Ofal Cyngor Sir y Fflint, Partneriaeth Strategol Casnewydd a Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd: Rhaglen Trawsnewid Anabledd Dysgu
  • Gweithio yn unol ag egwyddorion ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau: Becky Evans, Joey Ayris a Thîm Prosiect RITA yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y brig! Rwy’n edrych ymlaen at eu croesawu nhw i’r seremoni wobrwyo yng Ngwesty Mercure Cardiff Holland House Hotel ddydd Iau.

Byddwn ni’n ffrydio’r gwobrau’n fyw ar y we am 1pm, 25 Ebrill, felly os byddai gwylio’r seremoni a’n helpu i ddathlu’r bobl a’r prosiectau ysbrydoledig hyn o ddiddordeb i chi, gallwch wneud hynny yma.

Gallwch ddysgu rhagor am y bobl sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a pham, yma.