Jump to content
Dathlu llwyddiannau anhygoel ein gweithwyr gofal yng Nghymru
Newyddion

Dathlu llwyddiannau anhygoel ein gweithwyr gofal yng Nghymru

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Ddiwedd Ebrill, fe ges i’r fraint o dreulio prynhawn yng nghwmni rhai o’r gofalwyr gofal anhygoel sydd gyda ni yma yng Nghymru, gan gydnabod a dathlu eu llwyddiannau yn seremoni wobrwyo Y Gwobrau yng Nghaerdydd.

Y Gwobrau yw ein prif seremoni wobrwyo flynyddol sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu’r gwaith gwych sy’n digwydd ar draws y sectorau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

Dyma’r trydydd tro i fi gyd-gyflwyno’r seremoni wobrwyo ar y cyd â’r darlledwr Garry Owen. Ac rydw i wastad yn cael fy nghyffwrdd o weld y gwaith rhyfeddol sy'n cael ei wneud ddydd ar ôl dydd i ddarparu gofal a chymorth gwych, yn aml i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Eleni, mae 15 o brosiectau ac unigolion wedi cyrraedd rownd derfynol y gwobrau ar draws pum categori.

Yr enillwyr oedd:

  • Cyngor Dinas Casnewydd am Wasanaeth Seibiannau Byr Oaklands, sy’n cynnig seibiannau byr i blant ag anghenion ychwanegol
  • Right at Home Caerdydd a Chasnewydd, a enillodd am ei waith yn gwella ac yn gofalu am les ei weithlu
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent am ei brosiect Teuluoedd yn Gyntaf – Gofalwyr Ifanc, sy’n cefnogi gofalwyr ifanc o bump i 25 oed
  • Polly Duncan, rheolwr recriwtio yng Nghwasanaethau Cymorth Seren yng Nghastell-nedd Port Talbot, a enillodd y ‘wobr Arweinyddiaeth Effeithiol’ am y cynllun recriwtio arloesol a roddodd ar waith
  • Christel Hay, gweithiwr gofal cartref gydag Abicare ym Mhont-y-pŵl, a enillodd ‘wobr Gofalwn Cymru’ am waith gofal eithriadol.

Ar ôl tair blynedd anodd iawn, mae’r sector gofal yn parhau i wynebu heriau sylweddol, nid lleiaf oherwydd y nifer fawr o swyddi gwag o fewn y sector yn wyneb y galw cynyddol.

Ein ffordd ni o ddweud diolch wrth y sector gofal yw’r Gwobrau, sector sydd ddim wastad yn cael y gydnabyddiaeth na’r clod y mae’n ei haeddu.

Eto i gyd, mae ein gweithwyr gofal yn darparu gwasanaeth sydd yr un mor werthfawr, pwysig a theilwng o ganmoliaeth â’n cydweithwyr mewn sectorau cyhoeddus eraill, mwy uchel eu proffil, fel iechyd ac addysg.

Er bod y gwaith y mae ein gweithwyr gofal yn ei wneud yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan y rheini sy’n dibynnu arnyn nhw, rydw i’n awyddus i sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn dod i wybod am y gwaith gwych y mae ein gweithwyr gofal yn ei wneud i gefnogi a chadw plant ac oedolion yn ddiogel.

Dyna pam mae’r Gwobrau yn elfen mor bwysig o’n gwaith yn Gofal Cymdeithasol Cymru.

Un peth sy’n amlwg o'n holl enillwyr a’r rhai gyrhaeddodd y rownd derfynol yw pa mor angerddol a brwdfrydig ydyn nhw am y gwaith maen nhw'n ei wneud a faint mae'n ei olygu iddyn nhw i helpu'r bobl maen nhw’n eu cefnogi i gyflawni eu potensial llawn.

Rydyn ni’n gwybod o eiriau’r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau ein prosiectau buddugol a’r rhai a dderbyniodd gymeradwyaeth uchel, faint o wahaniaeth y mae'r gofal a'r cymorth a gânt yn ei wneud i'w bywydau.

Cefais fy synnu hefyd pa mor ddiymhongar oedd cynifer o’n henillwyr a’r rhai gyrhaeddodd y rownd derfynol.Felly roedd yn wych gweld y cyffro yn yr ystafell wrth i’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol aros i glywed a oedden nhw wedi ennill eu categori penodol. Roedd gan y beirniaid dasg anodd, gan fod pawb yn y rownd derfynol yn haeddu ennill.

Yn bersonol, mae’r rheini sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar, gofal plant a gofal cymdeithasol yn haeddu pob canmoliaeth a diolch bob dydd, ac mae’n hollbwysig ein bod yn cymryd yr amser i gydnabod, i ddathlu ac i ddiolch o galon am bopeth maen nhw’n ei wneud i drigolion Cymru.

Llongyfarchiadau i'n henillwyr a'r rhai gyrhaeddodd y rownd derfynol! Mae’n brofiad gwylaidd ac yn anrhydedd gallu rhannu eich llwyddiannau gyda chynulleidfa ehangach.

Dysgwch fwy am ein henillwyr a'r rhai gyrhaeddodd y rownd derfynol yma.