Jump to content
Dwy gynhadledd i ddathlu gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru
Newyddion

Dwy gynhadledd i ddathlu gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ynghyd â BASW Cymru, rydyn ni’n cynnal dwy gynhadledd am ddim yng Nghaerdydd a Llandudno yr hydref hwn.

Mae ein cynadleddau Dathlu gwaith cymdeithasol, a noddir gan TEC Cymru, yn gyfle i bobl sy’n gweithio ym maes gwaith cymdeithasol yng Nghymru, yn enwedig ymarferwyr a myfyrwyr, glywed gan siaradwyr ysbrydoledig a dod at ei gilydd i rannu ffyrdd o weithio.

Cynhelir y cynadleddau ar 26 Hydref yng Nghanolfan All Nations, Caerdydd a 9 Tachwedd yn Venue Cymru, Llandudno.

Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, a fydd yn ein cynhadledd yng Nghaerdydd, ac Albert Heaney CBE, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, a fydd yn ein cynhadledd yn Llandudno. Bydd Rhoda Emlyn Jones, OBE, Ymgynghorydd gwaith cymdeithasol annibynnol, hefyd yn siarad yn y ddwy gynhadledd.

Byddwn ni hefyd yn cynnal gweithdai gan ymarferwyr gofal cymdeithasol, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, ac academyddion gwaith cymdeithasol. Bydd y gweithdai yn cynnwys lleisiau pobl sydd â phrofiad byw.

Bydd digwyddiad panel hefyd, dan gadeiryddiaeth Abyd Quinn Aziz, Cyfarwyddwr y rhaglen MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y panel yn cynnwys ymarferwyr, cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a chynrychiolwyr o BASW Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd ein Prif Weithredwr, Sue Evans: “Bob dydd, mae ein gweithwyr cymdeithasol proffesiynol yn cefnogi miloedd o bobl ledled Cymru. Mae ein cynadleddau yn gyfle gwych i ni ddathlu’r gwaith rhagorol hwn, a’r gwerthoedd, yr hunaniaeth a’r pwrpas sy’n ein tynnu ynghyd.”

Cofrestrwch nawr!

Dilynwch y dolenni isod i Eventbrite i gofrestru ar gyfer y cynadleddau.