Jump to content
Croeso cynnes i 11 aelod newydd ein Bwrdd!
Newyddion

Croeso cynnes i 11 aelod newydd ein Bwrdd!

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’n bleser gennym ni groesawu 11 aelod newydd ein Bwrdd, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eu croesawu i’w cyfarfod Bwrdd cyntaf yr wythnos nesaf.

Ymgymerodd Abyd Quinn-Aziz, Aaron Edwards, Einir Hinson, Mark Roderick, Sarah Zahid a Kieran Harris â’u rôl newydd y mis hwn, a byddan nhw’n parhau fel aelodau tan fis Mawrth 2028.

Ac mi fydd Dr Edwin Mutambanengwe, Katija Dew, Dr Odosamawen Progress Igbedion, Isobel Lloyd a Sue Phelps yn ymuno â’n Bwrdd o fis Ebrill 2025 tan fis Mawrth 2029.

Fel aelodau o’r Bwrdd, bydd gan bob un o’r 11 rôl bwysig i’w chwarae i graffu ar ein gwaith, a gwneud yn siŵr ein bod yn dilyn ymarfer da pan ddaw’n fater o lywodraethu.

Meddai ein Cadeirydd Mick Giannasi: “Rwy wrth fy modd â’r penderfyniad i benodi 11 aelod newydd i’r Bwrdd.

“Wedi eu dethol yn ofalus o gronfa gychwynnol o 86 o ymgeiswyr, mi fyddan nhw’n rhannu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau â ni. Mae rhai ohonyn nhw’n gweithio mewn gofal cymdeithasol a daw eraill â sgiliau o fyd busnes ac arweinyddiaeth neu mae ganddyn nhw brofiad personol o fod yn ddefnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol.

“Yr hyn sydd ganddyn nhw i gyd yn gyffredin yw ymrwymiad i’n gwerthoedd fel sefydliad ac angerdd dros wella gofal cymdeithasol yng Nghymru.

“Rydyn ni’n arbennig o falch bod ein Bwrdd newydd yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, gydag aelodau o wahanol grwpiau ethnig, rhyweddau, oedrannau a galluoedd corfforol.

“Rwy’n edrych ymlaen at eu cyfraniadau i wneud gwahaniaeth positif i’r bobl hynny yng Nghymru sy’n dibynnu at ofal a chymorth i fyw’r bywydau sy’n bwysig iddyn nhw.

“Mi hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’n Bwrdd sy’n ymadael sydd wedi gwasanaethu’r cyhoedd mor arbennig ers sefydlu’r sefydliad yn 2017.”