Jump to content
Canllawiau newydd i gynorthwyo rheolwyr i gefnogi gweithwyr gofal preswyl dros nos i blant
Newyddion

Canllawiau newydd i gynorthwyo rheolwyr i gefnogi gweithwyr gofal preswyl dros nos i blant

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni wedi creu canllawiau newydd i gynorthwyo rheolwyr gweithwyr gofal preswyl dros nos i blant i gefnogi unigolion sy’n astudio tuag at gymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc).

Mae’r cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc) wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n datblygu gallu unigolion i gefnogi anghenion iechyd a gofal plant a phobl ifanc yn ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae’n seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer drwy waith yn y lleoliad.

Mae ein canllawiau newydd yn dangos i reolwyr sut:

  • gallant helpu gweithwyr i ddewis yr unedau mwyaf addas
  • gallant gweithwyr gyflawni’r credydau sydd eu hangen
  • gall gweithwyr gwrdd y meini prawf
  • mae’r cymhwyster yn cael ei asesu
  • gallant gefnogi’r dysgwr.