Jump to content
Canllaw newydd i'ch cefnogi i wella recriwtio a chadw ym maes gofal cymdeithasol
Newyddion

Canllaw newydd i'ch cefnogi i wella recriwtio a chadw ym maes gofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni wedi cyhoeddi canllaw newydd bydd yn cefnogi cyflogwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru i wella recriwtio a chadw.

Mae’r canllaw am ddim i’w lawrlwytho ac mae’n cynnwys cyngor ar bethau fel y ffordd orau o ddenu pobl i weithio yn y sector a gwneud i staff deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ar ôl iddyn nhw ymuno.

Rydyn ni wedi creu’r canllaw fel rhan o ddarn ehangach o ymchwil a archwiliodd sut y gallwn fynd i’r afael â’r heriau gweithlu sy’n wynebu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gweithion ni gyda sefydliad o’r enw Urban Foresight i gynnal yr ymchwil hwnnw, a oedd hefyd yn canolbwyntio ar y rôl bwysig y mae Gofalwn Cymru wedi’i chwarae ac y bydd yn ei chwarae yn y dyfodol.

Mae'r cyngor yn y canllaw yn cynnwys:

Atyniad

  • Codi ymwybyddiaeth o'r hyn y mae'r gwaith yn ei gynnwys, yr amrywiaeth o rolau sydd ar gael a gwerth y gwaith
  • Sicrhau fod hysbysebion swyddi wedi'u targedu, yn glir ac yn apelgar.
  • Cydweithio â sefydliadau lleol fel ysgolion a chanolfannau gwaith.
  • Darparu cymhellion ar gyfer ymuno.

Recriwtio

  • Gwneud hi'n haws gwneud cais trwy wneud pethau fel cynnig amseroedd cyfweld hyblyg ar benwythnosau neu gyda'r nos.
  • Treulio amser yn cefnogi ymgeiswyr i ddeall realiti’r swydd a chadw cysylltiad yn ystod y cyfnod rhwng cynnig y swydd a’r dyddiad dechrau.
  • Bod yn agored i gronfa ehangach o ymgeiswyr trwy gynnig patrymau gweithio hyblyg neu ystyried ymgeiswyr heb unrhyw brofiad.
  • Defnyddio ‘personas defnyddwyr’ i ddeall pwy allai fod â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant. Gallwch ddarganfod mwy am bersonas defnyddwyr isod.

Cadw

  • Paratoi recriwtiaid newydd ar gyfer y rôl a darparu hyfforddiant priodol fel nad oes unrhyw syndod pan fyddan nhw'n dechrau ar y gwaith.
  • Gwneud yn siŵr bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi drwy wneud pethau fel rhoi systemau cymorth ar waith neu ddathlu eu cyflawniadau. Gallwch ddod o hyd i gyngor ac adnoddau iechyd a llesiant trwy ymweld â'n tudalen ar y pwnc.

Yn ogystal â’r canllaw, rydyn ni hefyd wedi cynhyrchu pecyn cymorth personas defnyddwyr.

Mae personas defnyddwyr fel arfer yn gymeriadau ffuglennol sy'n cynrychioli cynulleidfa darged neu ddefnyddiwr gwasanaeth. Maen nhw'n aml yn cynnwys pethau fel gwybodaeth ddemograffig, nodweddion personoliaeth, nodau ac amcanion, gwybodaeth am ymddygiad a senarios i greu darlun o anghenion cynulleidfa darged neu ddefnyddiwr gwasanaeth.

Mae'r pecyn cymorth yn disgrifio sut y gellir defnyddio personas defnyddwyr i gefnogi ceiswyr gwaith yn y sector gofal cymdeithasol, gyda sawl person enghreifftiol.

Mae'r ddau adnodd am ddim i'w lawrlwytho.

Lawrlwytho'r adnoddau

Gallwch lawrlwytho'r adnoddau trwy glicio ar y dolenni isod.

Denu, recriwtio a chadw – canllaw i gyflogwyr.

Pecyn cymorth personas defnyddwyr.

Darllen yr ymchwil

Cafodd yr adnoddau hyn eu cynhyrchu fel rhan o ymchwil ehangach i sut y gellir mynd i’r afael â heriau gweithlu ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Yn ogystal â’r ddau adnodd, cynhyrchodd yr ymchwil gyfres o adroddiadau am ddenu, recriwtio a chadw yn y sector.

Os hoffech chi ddarllen yr adroddiadau, gallwch eu lawrlwytho o'n gwasanaeth Grŵp Gwybodaeth newydd.

Fe wnaethon ni lansio'r Grŵp Gwybodaeth ar ddechrau mis Mai, ac mae’n darparu mynediad at yr ymchwil a’r data gofal cymdeithasol diweddaraf, canllawiau ar hyfforddiant, cyfleoedd i gydweithio, a chyngor ar y cymorth sydd ar gael.

Darganfod mwy

I ddarganfod mwy am yr adnoddau neu’r ymchwil, cysylltwch â Gofalwn Cymru ar cyswllt@gofalwn.cymru.

Mae Gofalwn Cymru yn cynnig porth swyddi am ddim i bob cyflogwr gofal yng Nghymru i hyrwyddo eu swyddi gwag. Cofrestrwch yma i gael mynediad i’r adnodd hwn.

I ddysgu mwy am y rhaglen Gofalwn Cymru a sut y gall eich helpu chi, ewch i gofalwn.cymru.