Mae'n bleser gennym ni gyhoeddi bod BASW Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ymhlith y sefydliadau cyntaf i gofrestru i noddi Gwobrau 2024.
Mae'r Gwobrau, sydd wedi’u cynnal ers 2005, yn wobrau blynyddol a drefnir gennym ni i gydnabod, dathlu a rhannu gwaith rhagorol ar draws gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Bydd BASW Cymru yn noddi'r categori ‘Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu'.
Tra bod Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn noddi'r categori 'Gweithio mewn partneriaeth'.
Mae'r gwaith beirniadu ar gyfer gwobrau 2024 ar y gweill ar hyn o bryd a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad dathlu yng Ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd ar 25 Ebrill 2024.
BASW Cymru, yw’r gymdeithas broffesiynol ar gyfer gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru. Maent yn cefnogi aelodau yn eu hymarfer o ddydd i ddydd, yn ymgyrchu ar faterion allweddol yn ymwneud â gwaith cymdeithasol ac yn dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth y llywodraeth ledled Cymru.
Dywedodd yr Athro Samantha Baron, Cyfarwyddwr Cenedlaethol BASW Cymru: “Mae’n anrhydedd llwyr noddi’r categori ‘Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu’ eleni o ystyried y pwysau aruthrol sydd ar wasanaethau a gweithwyr cymdeithasol.
“Mae gofalu am a gwella llesiant y gweithlu yn allweddol i gadw gweithwyr cymdeithasol newydd a phrofiadol ar adeg o swyddi gwag sylweddol lle mae gweithwyr cymdeithasol ar gyfartaledd yn aros yn eu rolau am hyd at wyth mlynedd, yn is na’r cyfartaledd o’u cymharu â phroffesiynau cymharol.
“Mae BASW Cymru yn croesawu’r cyfle i ddathlu strategaethau i wella llesiant ac yn falch o fod yn bartner eto gyda Gofal Cymdeithasol Cymru mewn maes mor bwysig.”
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio gyda gofal cymdeithasol, diwydiant, y GIG a’r byd academaidd i sbarduno arloesi hanfodol i’r rheng flaen, mewn gofal sy’n cefnogi anghenion esblygol staff a defnyddwyr gwasanaethau – gan wella llesiant, iechyd a ffyniant ledled y wlad.
Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: “Mae’n anrhydedd i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gefnogi’r Gwobrau am yr ail flwyddyn yn olynol, drwy noddi’r categori Gweithio mewn Partneriaeth.
“Mae ein sefydliad yn gweithredu fel rhyngwyneb deinamig rhwng llawer o bartneriaid amrywiol yn yr ecosystem arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
“Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw cydweithio cryf mewn prosiectau er mwyn gwneud gwahaniaeth i iechyd a llesiant pobl, yn ogystal â’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn partneriaethau o’r fath i sicrhau newid ystyrlon.
“Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru i gydnabod a dathlu’r gwaith diflino ac ymroddiad staff, gofalwyr a sefydliadau ledled Cymru.”
Meddai Sue Evans, ein Prif Weithredwr: "Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a BASW Cymru fel noddwyr ar gyfer Gwobrau 2024.
"Mae BASW Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bartneriaid gwerthfawr ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda nhw ar y Gwobrau, sy'n chwarae rhan hanfodol o ran cydnabod, dathlu a diolch i'n gweithwyr gofal ymroddedig, gweithgar yng Nghymru.
"Mae trefnu seremoni wobrwyo yn dasg enfawr ac ni allem wneud y gwaith heb gefnogaeth ein noddwyr. Diolch yn fawr iawn i BASW Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru am eich cefnogaeth barhaus i'r sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru."