Jump to content
Helpwch ni i asesu aeddfedrwydd data gofal cymdeithasol yng Nghymru
Newyddion

Helpwch ni i asesu aeddfedrwydd data gofal cymdeithasol yng Nghymru

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n cynnal ymchwil i aeddfedrwydd data gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae ‘aeddfedrwydd data’ yn cyfeirio at barodrwydd sefydliad i wneud y defnydd gorau o’r data sydd ganddo.

Ein nod gyda’r prosiect hwn yw cefnogi awdurdodau lleol i ddeall sut y gallant wneud y defnydd gorau o’r data sy’n cael ei gasglu, ei brosesu a’i rannu fel rhan o’u darpariaeth gofal cymdeithasol.

Byddwn yn gwneud hyn drwy ddefnyddio proses a elwir yn asesiad aeddfedrwydd data.

Rydyn ni wedi comisiynu Alma Economics i’n helpu i wneud y gwaith hwn.

Mae gan Alma Economics brofiad helaeth o helpu sefydliadau i gael y gorau o’u data, a byddant yn ein helpu i ddatblygu pecyn cymorth.


Bydd y pecyn cymorth yn edrych ar:

  • y mathau o ddata gofal cymdeithasol sy'n cael eu casglu
  • sut mae data'n cael ei gasglu a'i reoli ar hyn o bryd
  • sut mae data gofal cymdeithasol yn cael ei rannu a gyda phwy
  • sut mae sefydliadau yn defnyddio'r data gofal cymdeithasol y maent yn ei gasglu
  • diwylliant data’r sefydliad.

Yn ystod yr asesiad, byddwn yn gweithio gyda phob awdurdod lleol i ddeall eu haeddfedrwydd data cyfredol.

Rydyn ni am i hon fod yn broses ddefnyddiol. Nid yw’n ffordd o fesur perfformiad swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol sefydliad, neu ei gydymffurfiaeth ag elfennau technegol prosesu data.

Ar ddiwedd y prosiect, byddwn yn anfon adroddiad cryno at bob awdurdod lleol, ac adborth ar y camau y gall eu cymryd i wella ei aeddfedrwydd data. Ni fydd yr adroddiadau a’r adborth hyn yn cael eu rhannu y tu allan i’r sefydliad y maent yn ymwneud ag ef.

Unwaith y bydd pob un o’r 22 awdurdod lleol wedi’u hasesu, bydd adroddiad trosfwaol yn cael ei ysgrifennu a’i rannu drwy ein gwefan. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi trosolwg i ni o dirwedd data gofal cymdeithasol Cymru. Bydd awdurdodau lleol yn aros yn ddienw yn yr adroddiad hwn.

Rydyn ni hefyd am ddefnyddio’r prosiect hwn i gyflwyno cyfleoedd eraill a fydd yn ein helpu i wella’r ffordd yr ydym yn defnyddio data gofal cymdeithasol yng Nghymru ar y cyd.

Mae hyn yn cynnwys edrych ar sut yr ydym yn rhannu data gofal cymdeithasol drwy’r Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) – platfform newydd sy’n dod â data am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o bob rhan o Gymru ynghyd.


Angen mwy o wybodaeth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, cysylltwch â Jeni Meyrick, ein Harweinydd Llywodraethu Gwybodaeth, ar jeni.meyrick@gofalcymdeithasol.cymru.