Jump to content
Adroddiad newydd yn argymell camau i wella aeddfedrwydd data gofal cymdeithasol
Newyddion

Adroddiad newydd yn argymell camau i wella aeddfedrwydd data gofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae adroddiad newydd wedi amlinellu camau y dylid eu cymryd i gefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i wella eu haeddfedrwydd data gofal cymdeithasol.

Mae ‘aeddfedrwydd data’ yn cyfeirio at barodrwydd sefydliad i wneud y defnydd gorau o’r data sydd ganddo.

Fe wnaethon ni gomisiynu cwmni o’r enw Alma Economics i gynnal asesiad aeddfedrwydd data annibynnol o holl awdurdodau lleol Cymru.

Cwblhaodd yr awdurdodau lleol holiadur am wahanol agweddau ar eu swyddogaethau data gofal cymdeithasol. Yna cafodd pob awdurdod adroddiad cryno a oedd yn rhoi cyngor ar y camau y gallai eu cymryd i wella ei aeddfedrwydd data ei hun.

Defnyddiodd Alma Economics hefyd yr asesiadau gan bob un o’r 22 awdurdod lleol i lunio adroddiad cenedlaethol sy’n rhoi trosolwg o dirwedd data gofal cymdeithasol Cymru. Mae’r awdurdodau lleol yn ddienw yn yr adroddiad hwn.

Fe wnaeth yr ymchwil darganfod bod data’n cael ei ystyried yn eang fel blaenoriaeth graidd i awdurdodau lleol, tra bod gan y rhan fwyaf brosesau casglu data cadarn ar waith ac yn defnyddio data i ddylanwadu ar lunio polisïau.

Ond roedd yr adroddiad hefyd yn nodi meysydd i'w gwella. Mae’r rhain yn cynnwys yr angen i gynyddu sgiliau ac adnoddau i wneud y gorau o ddata gofal cymdeithasol, gwneud systemau data yn fwy hawdd eu defnyddio ac yn gydnaws, a sicrhau bod data’n cael ei rannu’n effeithiol â sefydliadau eraill.

Roedd yr holiadur hefyd yn archwilio parodrwydd y sector i integreiddio data gofal cymdeithasol â data gofal iechyd drwy’r Adnodd Data Cenedlaethol (NDR), a fyddai’n golygu bod yn gydnaws â safonau Adnoddau Rhyngweithredu Gofal Iechyd Cyflym (FHIR). Mae safonau FHIR yn ffordd sydd wedi ei gydnabod yn rhyngwladol o ddisgrifio data gofal iechyd ac maen nhw wedi cael eu dewis hefyd gan bedair gwlad y DU.

Ymhlith y canfyddiadau yn ymwneud â chydnawsedd FHIR oedd nad yw llawer o awdurdodau lleol wedi datblygu arferion cyfnewid data cadarn eto, tra bod y rhan fwyaf yn dal i ddibynnu ar fformatau data â llaw a lled-strwythuredig fel Excel (96 y cant) a Word neu PDF (72 y cant) i gyfnewid data.

Darganfod mwy am FHIR

Gallwch ddarganfod mwy am safonau FHIR a pham eu bod yn bwysig i ofal cymdeithasol mewn blog ar ein gwefan Grŵp Gwybodaeth.

Beth mae'r adroddiad yn ei argymell

Mae’r adroddiad yn cydnabod y bydd cyllid ychwanegol a chydweithio ar draws y sector yn bwysig i gynyddu aeddfedrwydd data mewn gofal cymdeithasol a chyflawni ei argymhellion, sy’n cynnwys:

  • ehangu'r asesiad aeddfedrwydd data i sefydliadau gofal cymdeithasol eraill
  • gan adeiladu ar ein Datganiad o fwriad strategol, dylai’r sector ddatblygu strategaeth ddata a map ffordd yn amlinellu camau gweithredu clir i wella aeddfedrwydd data
  • dylid datblygu ‘geiriadur data’ sector cyfan, i safoni diffiniadau o ddata gofal cymdeithasol craidd
  • dylid monitro aeddfedrwydd data dros amser trwy asesiadau dilynol neu offer hunanasesu
  • dylai sefydliadau gofal cymdeithasol ddatblygu cynlluniau gweithredu aeddfedrwydd data unigol, wedi'u llywio gan strategaethau sector cyfan ac asesiadau unigol.

Gwnaeth yr adroddiad argymhellion pellach yn benodol ar gyfer cefnogi cydnawsedd â FHIR, sy’n cael ei ynganu fel y gair ‘fire’, gan gynnwys:

  • codi ymwybyddiaeth o'r NDR yn y sector gofal cymdeithasol
  • cynnal adolygiad cydnawsedd FHIR
  • cydweithio i greu cynllun gweithredu ar gyfer cyflawni cydweddoldeb FHIR, a sefydlu gweithgor amlddisgyblaethol i oruchwylio ei weithrediad
  • gweithio gyda chyflenwyr systemau i alinio systemau data â safonau FHIR
  • cynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am safonau FHIR trwy hyfforddiant a digwyddiadau wedi'u targedu
  • datblygu set o adnoddau FHIR a rennir i gefnogi awdurdodau lleol a sefydliadau gofal cymdeithasol eraill ar eu ffordd i gydnawsedd FHIR.

Rydyn ni’n siarad â’n partneriaid am sut gallwn ni gydweithio i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad.

Darllen yr adroddiad

Gallwch ddarllen yr adroddiad ar ein gwefan Grŵp Gwybodaeth.

Darganfod mwy

Os hoffech wybod mwy am yr adroddiad, cysylltwch â data@gofalcymdeithasol.cymru.