Jump to content
Adnoddau dysgu digidol newydd ar gyfer atal a rheoli heintiau
Newyddion

Adnoddau dysgu digidol newydd ar gyfer atal a rheoli heintiau

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae arferion atal a rheoli heintiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth dda yn hanfodol ar gyfer cynnal amgylchedd diogel i bawb a lleihau'r risg o ledaenu heintiau a chlefydau heintus.

Rydym wedi datblygu set o fodiwlau dysgu digidol i helpu unrhyw un sy’n ymwneud â’r sector gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant i wybod sut i ymddwyn i leihau lledaeniad heintiau.

Mae 3 modiwl ar gael:

  • Anelir Lefel 00 at y rhai sy'n ystyried gyrfa mewn gofal cymdeithasol neu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant, gofalwyr a/neu deuluoedd a allai fod yn ymweld â rhywun mewn lleoliad gofal
  • Anelir Lefel 01 at bobl sydd naill ai'n ymweld â lleoliadau gofal fel gweithiwr proffesiynol, er enghraifft gweithiwr cymdeithasol, neu'r rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal mewn rôl nad yw'n darparu gofal a chymorth uniongyrchol, er enghraifft gweinyddwr.
  • Anelir Lefel 02 at weithwyr sy'n darparu gofal a chymorth uniongyrchol mewn lleoliad gofal cymdeithasol neu flynyddoedd cynnar a gofal plant

Gallwch ddod o hyd i restr lawn o'r gynulleidfa darged ar gyfer pob lefel ar y dudalen Atal a rheoli heintiau ar ein gwefan.

Mae'r modiwlau ar gael am ddim i unrhyw un yn Dysgu@Cymru.

Bydd angen cyfrif arnoch i gael mynediad at y modiwlau. Os oes gennych chi gyfrif GCCarlein yn barod neu os ydych / hoffech chi weithio neu wirfoddoli ym maes gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant, cliciwch ar y botwm ‘GCCarlein/GCCarlein’ i fewngofnodi/creu eich cyfrif.

Os nad ydych yn gweithio neu’n gwirfoddoli ym maes gofal cymdeithasol gallwch greu cyfrif Dysgu@Cymru newydd.

Os na allwch fewngofnodi gan ddefnyddio'ch cyfeiriad gwaith, neu os yw'n well gennych ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost personol, cysylltwch ag: elearning@wales.nhs.uk i sefydlu cyfrif ar gyfer eich cyfeiriad e-bost. Os oes gennych unrhyw anawsterau, gallwch hefyd eu ffonio neu gysylltu â nhw drwy sgwrs fyw Dysgu@Cymru.