Mae meithrinfa cyfrwng Cymraeg ym Merthyr Tudful, gweithiwr gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont a phlatfform digidol yn Wrecsam sy’n helpu pobl i gael y gofal sydd ei angen arnynt ymhlith y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau 2025.
Mae’r gwobrau – sy’n cael eu trefnu gennym ni a’i noddi gan Llais – yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu ymarfer rhagorol ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Mae’r Gwobrau yn agored i weithwyr gofal ar bob lefel, yn ogystal â thimau, prosiectau a sefydliadau o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol ac annibynnol sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.
Roedd 127 o brosiectau a gweithwyr gofal o bob cwr o Gymru wedi ymgeisio neu’u henwebu ar gyfer y gwobrau eleni.
Cafodd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eu dewis gan baneli o feirniaid sy’n cynnwys aelodau ein Bwrdd, cynrychiolwyr o sefydliadau partner, a phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth.
Y flwyddyn hon, bydd enillwyr o ddau gategori yn cael eu dewis gan y cyhoedd: y gwobrau Arweinyddiaeth Ysbrydoledig a Gofalwn Cymru.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn seremoni wobrwyo Gwobrau 2025 yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd, ddydd Iau, 1 Mai.
Llais yw prif noddwr y Gwobrau eleni. Mae BASW Cymru, Hugh James, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Practice Solutions a Gofalwn Cymru hefyd yn noddi’r digwyddiad. Darllenwch fwy am ein noddwyr yma.
Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Rydyn ni’n falch iawn o gael grŵp mor gryf yn y rownd derfynol sy’n dangos y gwaith gofal rhagorol sy’n cael ei wneud ar hyd a lled Cymru.
“Unwaith eto, rydyn ni wedi cael ceisiadau o safon eithriadol o uchel ac mae’r beirniaid wedi’i chael yn anodd dewis y 18 o geisiadau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.
“Mae'r Gwobrau eleni wedi rhoi enghreifftiau gwych i ni o weithwyr, timau a sefydliadau ysbrydoledig ac ymroddedig sy'n darparu gofal a chymorth rhagorol i rai o’r bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, yn dangos y gwahaniaeth positif mae hyn yn ei chael ar fywydau pobl.
“Mae hi’n hollbwysig ein bod yn cymryd yr amser i ddiolch i’n gweithwyr gofal ymrwymedig ac ymroddgar, ac i gydnabod a dathlu’r gofal a’r cymorth arbennig sy’n cael ei ddarparu bob dydd mewn cymunedau ym mhob cwr o Gymru.
“Llongyfarchiadau i’r 18 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu chi i’r seremoni wobrwyo ym mis Mai, ac at gydnabod, dathlu a rhannu eich ymdrechion a’ch llwyddiannau gwych.”