Jump to content
Pleidleisiwch dros enillydd y wobr Gofalwn Cymru 2025

Darllenwch am y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y wobr Gofalwn Cymru a phleidleisiwch dros enillydd.

Noddir y wobr gan Gofalwn Cymru.

Bydd y Gwobrau yn cael ei gynnal yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd ar ddydd Iau 1 Mai.

Y flwyddyn hon, bydd enillwyr o ddau gategori yn cael eu dewis gan y cyhoedd:

  • Arweinyddiaeth Ysbrydoledig
  • Gofalwn Cymru.

Mae pedwar gweithiwr o ar draws y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar wedi'u dewis ar gyfer rownd terfynol y wobr Gofalwn Cymru.

Mae'r bleidlais ar agor tan 5pm, 31 Mawrth.

Casey Baker, Gweithiwr Gofal Cymdeithasol, Byw â Chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Enwebwyd gan Ceri Williams, Rheolwr Gwasanaeth Darparwr gyda Byw â Chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae agwedd greadigol a pherson-ganolog Casey at ei rôl wedi’i gwneud “yn ffigur annwyl ymhlith y bobl mae hi’n eu cefnogi, a’i chydweithwyr”.

Mae Casey bob amser yn chwilio am ffordd o ddod â gwen i wyneb y bobl mae hi’n eu cefnogi. Mae hi’n trefnu partïon pen-blwydd a Nadolig, diwrnodau sba, nosweithiau crefft, nosweithiau gemau a nosweithiau gwneud pitsa i’r bobl mae hi’n eu cefnogi. Ond “nid dim ond gweithgareddau yw’r rhain; maen nhw’n brofiadau wedi’u cynllunio’n ofalus sy’n dod â hwyl ac ymdeimlad o gymuned i bawb sy’n cymryd rhan.”

Gallu Casey i gysylltu â phobl ar lefel bersonol sy’n ei gwneud hi’n weithiwr gofal cymdeithasol eithriadol. Mae hi’n ddibynadwy, yn sylwgar ac mae wedi creu amgylchedd meithringar lle mae pawb yn teimlo o bwys, a’u bod yn cael eu cefnogi. Dywed Ceri: “Awydd diffuant i wneud gwahaniaeth cadarnhaol sy’n gyrru gweithredoedd Casey.”

Mae ei hymroddiad yn mynd y tu hwnt i’w dyletswyddau rheolaidd. Wrth ddarparu gofal diwedd oes i un o’r bobl mae hi’n eu cefnogi, aeth Casey ati ar ei phen ei hun i addurno ystafell yr unigolyn ar gyfer ei phen-blwydd i sicrhau ei bod hi’n gallu dathlu o hyd, er ei bod yn gaeth i’r gwely. Cynigiodd Casey “gysur a llawenydd ar adeg anodd”. Hefyd, mae Casey yn cefnogi ac yn annog ei thîm. A hithau’n arwain trwy esiampl, mae wedi creu awyrgylch cydweithredol a thosturiol, ac mae’n ysbrydoli ei chydweithwyr gyda’i pharodrwydd i fynd y filltir ychwanegol.

Dywed Ceri: “Mae gweithredoedd Casey yn arddangos y safonau gofal ac ymroddiad uchaf.”

Gayle Jones, Cydlynydd Gofal yn Habitat Homecare, Abertawe

Enwebwyd gan Lisa Buchanan, Unigolyn Cyfrifol a Chyfarwyddwr yn Habitat Homecare.

Mae Lisa yn disgrifio bod Gayle fel “conglfaen y tîm”, sydd bob amser yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl.

Dywed un o’r bobl y mae Gayle yn eu cefnogi: “Mae [Gayle] yn mynd y filltir ychwanegol a does dim byd byth yn ormod o drafferth iddi. Mae hi’n gweithio mor galed ac yn gwneud fy mywyd o ddydd i ddydd gymaint yn haws.”

Ar hyn o bryd, mae Gayle yn cwblhau ei chymhwyster Lefel 5 mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Gayle bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’i gwaith ac ansawdd bywyd y bobl mae hi’n eu cefnogi.

Ar ôl clywed am fenter genedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar iechyd y geg, Gwên am Byth, cysylltodd Gayle â hyfforddwyr Gwên am Byth i drefnu sesiynau i’w chydweithwyr. Mae arfer gorau ym maes iechyd y geg bellach yn rhan o’r drefn ddyddiol yn Habitat Homecare.

Dywed Lisa fod Gayle “yn ymgorffori tosturi ac uniondeb” ym mhob agwedd ar ei gwaith. Dros y Nadolig, mae hi’n paratoi prydau i gleientiaid sydd mewn perygl o fod yn unig. Mae hi’n “cael ei pharchu’n fawr iawn gan ei chydweithwyr ac mae’n annwyl iawn i’w chleientiaid”.

Wrth ddychwelyd i’w swydd ar ôl colli ei phartner, meddai Gayle: “Roeddwn i am wneud fy ngwaith i’r bobl sydd fy angen i a chael ffocws.”

Dywedodd rheolwr gofal Habitat Homecare: “Mae hi bob amser yn barod i roi help llaw, cynnig arweiniad a chefnogi ei chydweithwyr trwy unrhyw heriau y gallant eu hwynebu. Mae cyfraniadau Gayle at y tîm yn amhrisiadwy ac mae ei hymroddiad diwyro wedi gwneud argraff barhaus.”

Sarah Sharpe, Gofalwr Plant Cofrestredig yn Poppins Daycare ym Mro Morgannwg

Enwebwyd gan Lee Walker-Metzelaar, Gofalwr Plant.

Mae angerdd ac ymroddiad Sarah yn disgleirio yn ei gwaith fel gofalwr plant. Dywed Lee fod gan Sarah “amynedd di-ben-draw” dros y plant mae hi’n gofalu amdanynt.

Ar ei rhandir yn y Barri, mae Sarah yn addysgu’r plant i blannu, tyfu a chynaeafu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain. Gyda’i Hachrediad Hygge, mae hi’n meithrin perthynas iach gyda bwyd a natur.

Mae Sarah wedi helpu rhieni i fanteisio ar gymorth hanfodol ar gyfer eu plant. Mae hi wedi cyfeirio teuluoedd at Ddechrau’n Deg i gael dosbarthiadau magu plant, ymweliadau iechyd ychwanegol a sesiynau chwarae gartref.

Dywed un rhiant: “Allen ni ddim bod yn fwy diolchgar”. Mae un arall yn disgrifio sut mae gofal Sara wedi rhoi “ymdeimlad anhygoel o chwarae a hyder” i’w blentyn.

Mae Sarah yn cynnig gofal plant am ddim am awr i rieni fel y gallant fynd i’w meddyg teulu i gael prawf ceg y groth.

Hefyd, mae Sarah yn gweithio gyda’r awdurdod lleol i gefnogi gofalwyr plant newydd a hyrwyddo cyrsiau hyfforddiant, ac mae’n cynnig nosweithiau mentora am ddim i ofalwyr plant.

Yn 2024, enillodd Sarah wobr ‘Gweithiwr Chwarae y Flwyddyn’ Clybiau Plant Cymru am ei hymrwymiad i ddysgu. Hefyd, enillodd Wobr y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (PACEY) Cymru.

Meddai Lee, “Sarah sydd â’r galon fwyaf a mwyaf caredig o blith pawb rwy’n eu hadnabod.”

Terri Steele, Gofalwr Plant Cofrestredig Hunangyflogedig o Geredigion

Enwebwyd gan Claire Protheroe, Pennaeth Contractau a Phrosiectau’r Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (PACEY) Cymru.

Mae “egni heintus, brwdfrydedd a gwerthfawrogiad Terri o anghenion plant” yn golygu bod rhieni’r plant mae hi’n gofalu amdanynt yn llwyr ymddiried ynddi, ac mae gan blant “y rhyddid i archwilio [a] gofod i fod yn rhwystredig.”

Mae Terri yn angerddol am ddysgu. Mae ganddi gymhwyster Ysgol Goedwig ac mae’n addysgu’r plant am arddio, yr amgylchedd a diwylliant Cymru. Maen nhw’n dysgu iaith arwyddion, hefyd.

Meddai un rhiant: “Roedd gwybod pa mor hapus yw fy mab gyda Terri yn golygu bod dychwelyd i’r gwaith mor ddi-boen â phosibl. Ni allwch roi pris ar hynny, ond gallwch roi gwobr iddi ar ei gyfer.”

Enwebodd rhieni a gofalwyr Terri ar gyfer Gwobr Hyrwyddwr Lles y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (PACEY) Cymru, lle bu’n enillydd ar y cyd.

Mae Terri hefyd yn ymwneud â’r sector blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae hi’n cymryd rhan mewn fforymau gofalwyr plant, lle mae’n helpu i amlygu’r heriau sy’n wynebu’r sector.

Hefyd, mae hi wedi gweithio gydag Uned Gofal Plant Ceredigion i hyrwyddo gofal plant fel gyrfa ac fe’i henwebwyd am wobr ar gyfer y gwaith hwn.

Enwebwyd Terri ar gyfer y Gwobrau yn rhannol gan deulu a gefnogodd yn dilyn marwolaeth eu mab, a ddywedodd: “Mae [Terri] wedi rhoi sicrwydd, tosturi a lle i’m merch lle bydd ei brawd bach bob amser yn cael ei gofio a’i garu ... Ni fyddwn am anfon fy mhlentyn i unman arall.”

Cyhoeddwyd gyntaf: 13 Mawrth 2025
Diweddariad olaf: 14 Mawrth 2025
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (34.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch